Newyddion S4C

Y Swistir yn ennill Eurovision

Nemo

Y canwr o’r Swistir Nemo gyda’u cân 'The Code' enillodd cystadleuaeth yr Eurovision yn Malmo yn Sweden yn hwyr nos Sadwrn.

Fe ddaeth y gân yn gyntaf yn dilyn pleidlais y beirniaid gyda phleidlais y cyhoedd yn sicrhau’r fuddugoliaeth iddyn nhw.

Nemo yw’r canwr anneuaidd (non-binary) cyntaf i ennill Eurovision. Mae’r gân yn adrodd sut y daethon nhw i delerau gyda’u hunaniaeth.

Fe ddaeth Olly Alexander yn yr 18fed safle ar ôl derbyn dim un pwynt gan y cyhoedd ond fe gafodd 46 pwynt gan y beirniaid.

Llun: Eurovision

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.