Elfyn Evans yn y chweched safle yn Rali Portiwgal
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y chweched safle ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali Portiwgal.
Roedd Evans yn yr wythfed safle ar ddiwedd 8 cymal ddydd Gwener a llwyddodd i godi i’r chweched safle ddydd Sadwrn ar ôl i arweinydd y rali ar y pryd Kalle Rovanperrä fynd allan o’r rali yn dilyn damwain.
Fe yrrodd Evans yn ofalus ar y cymalau ddydd Sadwrn er mwyn cadw’i safle.
Dywedodd Evans: “Doedden ni ddim yn y frwydr heddiw felly mae’n anodd dod o hyd i’r cyflymdra gorau a ‘da ni yn canolbwyntio ar weithio ar ychydig bethau i fod yn barod am fory."
Fe fydd y rali yn dod i ben yn dilyn pedwar cymal ddydd Sul.
Sébastien Ogier o Ffrainc sy'n arwain y rali.
Roedd Evans yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd cyn Rali Portiwgal.
Llun: X/Elfyn Evans