Geraint Thomas yn y trydydd safle yn y Giro d’Italia
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn y trydydd safle ar ddiwedd wythnos gyntaf y rasio yn y Giro d’Italia.
Mae Thomas tu ôl i Tadej Pogacar o Slofenia sy’n gwisgo Maglia Rosa a Danny Martinez.
Fe gysgododd Thomas Pogacar yr holl ffordd dros 152 cilomedr ar gymal 8 ddydd Sadwrn yn y mynyddoedd rhwng Spoleto a Prati di Tivo.
Fe dorrodd Pogacar yn glir yn y metrau olaf i ennill y cymal am y trydydd tro yn y ras gyda Thomas yn bumed.
Fe gollodd Thomas ddwy funud i Pogacar pan enillodd y Slofeniad y ras yn erbyn y cloc ddydd Gwener. Fe gollodd 12 eiliad ychwanegol ddydd Sadwrn oherwydd bod Pogacar yn cael amser ychwanegol am ennill y cymal. Mae Thomas nawr 2:58 munud tu ôl Pogacar.
Fe fydd yn anodd i unrhyw un guro Pogacar o hyn ymlaen wrth iddo gymryd rheolaeth o’r ras yn gynnar iawn.
Dywedodd Thomas ar ddiwedd y cymal: "Rwy'n teimlo tipyn yn well 'na ddoe, fel nos a dydd. Y bwriad heddiw oedd cael ychydig o hyder a symud ymlaen."
Llun: X/Ineos Gernadiers