Teyrngedau i reolwr pêl-droed 'cadarn' oedd yn 'ffrind i bawb'
11/05/2024
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i reolwr pêl-droed poblogaidd o Wynedd sydd wedi marw'n sydyn.
Roedd Euron Davies, 46 oed, yn reolwr ar dîm cyntaf Clwb Pêl-Droed Y Felinheli, ger Caernarfon.
Mewn datganiad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y clwb fore Sadwrn, dywedodd llefarydd: "Trist iawn ydy gorfod cyhoeddi’r newyddion am farwolaeth sydyn ein rheolwr, Euron.
"Daeth ei weledigaeth a cyfnod llewyrchus iawn i’r clwb yn ystod ei gyfnod trawsnewidiol fel rheolwr."
Fe gafodd Mr Davies ei ddisgrifio fel "rheolwr cadarn a doeth" a oedd yn "ffrind i bawb".
Fe aeth y datganiad ymlaen i ddweud fod "dyled y clwb yn enfawr iddo" ac fe fydd "colled enfawr i’r clwb, i’r pentref, ac i’w deulu a’i ffrindiau oll."
Dywedodd y sylwebydd pêl-droed David James, "Ddrwg iawn gen i glywed y newyddion hynod drist am Euron. Pob cydymdeimlad â'r teulu a phawb yn clwb Felinheli yn eu colled."
Mae sawl clwb lleol ar draws Cymru hefyd wedi rhoi teyrngedau, gan gynnwys CPD Llannefydd FC: "Ddrwg iawn clywed am y golled enfawr. Dyn a hanner a roddodd bopeth i'w glwb."
Mae'r Felinheli wedi gohirio eu gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Mynydd y Fflint.