Newyddion S4C

Kinnock: ‘Etholwyr ddim wedi eu llwyr argyhoeddi gan Lafur'

11/05/2024
Neil Kinnock

Mae cyn-arweinydd y blaid Lafur, yr Arglwydd Neil Kinnock, wedi dweud nad yw etholwyr "wedi eu llwyr argyhoeddi gan Lafur".

Roedd yr Arglwydd Kinnock wedi arwain y blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol 1992 pan enillodd y ceidwadwyr Syr John Major fuddugoliaeth am y pedwerydd tro er bod llafur yn arwain yn y poliau piniwn.

Mae Llafur dan arweinyddiaeth Syr Keir Starmer ar y blaen yn sylweddol dros y Ceidwadwyr dan arweinyddiaeth Rishi Sunak ar hyn o bryd.

Mewn cyfweliad ar raglen y BBC Week in Westminster ddydd Sadwrn dywedodd yr Arglwydd Kinnock: “Rwy’n credu gallai ddweud gyda thipyn o sicrwydd na fyddwn yn colli.

“Pan mae’n dod i geisio dyfalu posibilrwydd mwyafrifoedd, mawr, cymedrol, bach, fyddai ddim yn ymrwymo i hynny oherwydd bod gennym system o’r cyntaf heibio’r postyn sydd hynod newidiol.

Dywedodd fod Llafur “mewn safle da” yn dilyn yr etholiadau lleol yn Lloegr “oherwydd roedd digon o ganlyniadau siomedig i warantu byddwn ni ddim yn hunanfodlon, heb fod yna ddigon o ganlyniadau gwael i roi panig i ni.

“Rwy’n credu ei fod yn deg i ddweud nad yw’r etholwyr wedi eu hargyhoeddi’n llawn gan Lafur er fy mod yn meddwl ei fod yn naturiol fod etholwyr wedi eu dadrithio ar ôl 14 mlynedd o lywodraethau Ceidwadol.”

“Mae datgan brwdfrydedd yn wahanol i ddatgan anobaith.

Fe fydd pobl yn dweud ‘gadewch i ni gael y Torïaid allan’ ond nid yw hwnna’n golygu ‘gwych, rhyfeddol, mae rhyddid gyda ni oherwydd Keir Starmer’.”

Ychwanegodd yr Arglwydd Kinnock nad yw’r cyfnod yma cyn etholiad cyffredinol yn ymdebygu i 1992 na 1997 pan enillodd Llafur fwyafrif sylweddol.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.