Joost Klein o’r Iseldiroedd wedi ei wahardd o Eurovision yn dilyn cwyn
Mae’r artist Joost Klein wedi ei wahardd o rownd derfynol Eurovision nos Sadwrn yn dilyn cwyn am ei ymddygiad.
Mewn datganiad fore dydd Sadwrn dywedodd trefnwyr y gystadleuaeth yn Malmo yn Sweden: "Ni fydd yr artist o’r Iseldiroedd Joost Klein yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Eurovision.
"Mae Heddlu Sweden wedi ymchwilio i gwyn gan aelod benywaidd o’r criw cynhyrchu yn dilyn digwyddiad yn dilyn ei berfformiad yn y rownd gynderfynol nos Iau.
"Tra bod y broses gyfreithiol yn parhau ni fydd yn addas iddo barhau yn y gystadleuaeth.
"Hoffwn wneud yn glir, yn groes i rai adroddiadau yn y cyfryngau a dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol, nid yw’r digwyddiad yn ymwneud ag unrhyw berfformiwr arall neu aelod o ddirprwyaeth.
"Nid ydym yn goddef unrhyw ymddygiad anaddas yn ein digwyddiad ac rydym wedi ymrwymo at amgylchedd diogel i bob aelod o staff yn y digwyddiad. Mae ymddygiad Joost Klein tuag at aelod o’r tîm wedi ei dybio i fod wedi torri rheolau’r gystadleuaeth."
Nid oedd Klein wedi perfformio yn yb sioe ymarfer nos Wener a bydd 25 o gystdaleuwyr nos Sadwrn yn hytrach na 26.
Mae disgwyl i brotestiadau o blaid Palestina gael eu cynnal cyn y sioe nos Sadwrn oherwydd presenoldeb Israel yn y gystadleuaeth.
Llun: X