Dod o hyd i gorff dyn ar fynydd yn Eryri
Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff dyn ar fynydd Pen yr Ole Wen yn Eryri.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff y dyn ar ochr dde orllewin y mynydd ddydd Gwener ar ôl i’r asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau oedd yn chwilio am gerddwr oedd ar goll weld yr hyn oedden nhw’n meddwl oedd person ar lethrau’r mynydd.
Dywedodd y tîm achub mynydd eu bod nhw wedi chwilio ar droed a dod o hyd i gorff dyn a’i gludo o’r mynydd.
Daw hyn wedi i ddyn 19 oed farw wedi iddo ddisgyn oddi ar fynydd arall yn Eryri ar ddydd Llun Ŵyl y Banc.
Fe wnaeth y dyn, a oedd yn cerdded gyda'i ddau frawd, ddioddef anafiadau sylweddol wrth gerdded ar fynydd Tryfan.
Cafodd y gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i grib ogleddol Tryfan er mwyn helpu i chwilio am eu lleoliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub eu bod nhw wedi dod o hyd i'r brodyr, a oedd wedi cynorthwyo'r gweithwyr achub i leoli eu brawd.
Bu farw'r dyn o'i anafiadau, ac fe gafodd y ddau frawd eu rhaffu i dir diogel.
Llun: Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen