Newyddion S4C

O Taylor i Syr Tom: Pa artistiaid fydd yn perfformio yng Nghymru dros yr haf?

Taylor Swift / Tom Jones

Mae Cymru yn cael ei hadnabod fel gwlad y gân, ac eleni, bydd rhai o artistiaid enwoca’r byd yn perfformio yma mewn cyngherddau a gwyliau cerddorol.

Mae tymor y cyngherddau ar droed yn y stadiwm genedlaethol, wrth i’r Boss, Bruce Springsteen a’r E Street Band chwarae yno'r penwythnos diwethaf.

Wedi i’r cae yn y Stadiwm Principality gael ei orchuddio am y misoedd nesaf, bydd rhagor o gyngherddau yn golygu na fydd rygbi yn cael ei chwarae yno.

O ganlyniad, bydd Cymru yn chwarae eu gêm rygbi rhyngwladol yn erbyn De Affrica yn Twickenham, ac nid Caerdydd ar 22 Mehefin.

Ond gyda’r diwydiant gerddoriaeth byw yn cyfrannu £218 miliwn tuag at economi Cymru yn 2022 yn ôl adroddiad gan UK Music, mae’r cyngherddau rhain yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr.

Ond pwy yw’r enwau mawr fydd yn chwarae yng Nghymru eleni?

Stadiwm Principality 

Pink (Mehefin 11),  Taylor Swift (Mehefin 18), Foo Fighters (25 Mehefin), Billy Joel a Chris Isaak (9 Awst).

O bosib y seren disgleiriaf yn y byd cerddoriaeth pop yn 2024, bydd Taylor Swift yn perfformio yn y brif ddinas ar 18 Mehefin. Wythnos yn ddiweddarach, bydd y cewri roc, Foo Fighters yn diddanu’r torfeydd, tra bod Pink a Billy Joel hefyd yn siŵr o ddenu miloedd o ffyddloniaid i fwynhau eu caneuon.

Image
Foo Fighters
Foo Fighters (Llun: PA)

Castell Caerdydd

Mae’n argoeli haf hynod o brysur o fewn muriau’r castell, gyda 20 o gyngherddau wedi eu trefnu yno dros y misoedd nesaf. 

Ymhlith yr enwau mawr fydd yn perfformio yno bydd y Manic Street Preachers (Gorffennaf 5 a 7), Noel Gallagher’s High Flying Birds (Gorffennaf 17), Madness (Gorffennaf 18), Rick Astley (Gorffennaf 10), Avril Lavigne (Gorffennaf 2), Weezer a Smashing Pumpkins (14 Mehefin), JLS (Gorffennaf 7) a Catfish and the Bottlemen (Gorffennaf 19 a 20).

Image
Noel Gallagher
Noel Gallagher (Llun: PA)

Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen

Yn sgil partneriaeth newydd gyda chwmni hyrwyddo cerddoriaeth, mae’r Eisteddfod wedi denu sawl enw mawr o’r byd cerddoriaeth pop yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. Mae rhai wedi galw ar drefnwyr i “ddiogelu neges graidd yr Eisteddfod” wrth i’r ŵyl foderneiddio.

Syr Tom Jones yw’r prif enw fydd yn perfformio yn ystod wythnos graidd y gŵyl, ar 2 Gorffennaf. Yn ogystal, bydd y lleisydd jazz Gregory Porter (Gorffennaf 5), a’r gantores glasurol Katherine Jenkins (Gorffennaf 7) yn perfformio'r un wythnos. Yn ystod Mehefin a Gorffennaf, bydd Bryan Adams, Paloma Faith, Manic Street Preachers, Kaiser Chiefs, Nile Rodgers a Chic, a Madness hefyd yn ymddangos ar y llwyfan enwog.

Image
Katherine Jenkins
Katherine Jenkins (Llun: PA)

Stadiwm Swansea.com a Pharc Singelton, Abertawe

Bydd Take That yn ymweld ag Abertawe fel rhan o'u taith eleni. Stadiwm Swansea.com yw lleoliad y gig ar 7 Mehefin. Bydd James Arthur hefyd yn dod i Abertawe ac yn chwarae ym Mharc Singleton ar 18 Gorffennaf.

Gwyliau eraill

FOCUS Wales – Mai 9-11

Y penwythnos hwn, bydd artistiaid yn chwarae mewn sawl leoliad yn ninas Wrecsam, gan gynnwys: Adwaith, Aleighchia Scott, Melin Melyn, Sage Todz, Pys Melyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Chroma, Eadyth a Cerys Hafana.

Yr Eisteddfod Genedlaethol a Maes B - Awst 6-11

Yr uchafbwynt yng nghalendr diwylliannol Cymru, bydd yna lu o artistiaid yn chwarae ar Lwyfan y Pafiliwn eleni, ac wrth gwrs ym Maes B. Mae’r rhaglen o bwy fydd yn perfformio eto i’w gadarnhau gan drefnwyr.

Greenman, Crucywel – Awst 15-18

Ymhlith yr artistiaid yn perfformio yn y gŵyl ym Mannau Brycheiniog eleni mae: Arlo Parks, Big Thief, Sampha, The Jesus and Mary Chain, Ezra Collective, Cerys Hafana, Pys Melyn a Cowbois Rhos Botwnnog.

Tafwyl, Caerdydd - Gorffennaf 12-14

Eden, Fleur De Lys ac Al Lewis sydd ar frig rhestr perfformwyr yr ŵyl ym Mharc Biwt eleni, tra bydd Yws Gwynedd, Gwilym, Rio 18, Mared, Meinir Gwilym, Lloyd a Dom, Mellt, Geraint Lovgreen, Celt, HMS Morris, Griff Lynch hefyd yn perfformio.

Image
Eden
Eden  (Llun: Facebook/Eden)

In it Together Festival, Margam - Mai 24-26

Ymysg yr artistiaid sydd yn perfformio yn yr ŵyl hon bydd: Rag ‘n’ Bone Man,  Sugababes, Dizzee Rascal, Sam Ryder, Billy Ocean, Blue, Feeder, Razorlight, Sister Sledge, Gruff Rhys, Aleighcia Scott, Adwaith, Lemfreck, Melin Melyn, Judge Jules, Liberty X.

Sesiwn Fawr, Dolgellau - Gorffennaf 18-21

Ar draws tri leoliad yn Nolgellau, bydd David Pasquet, Mr, Eden, Steve Eaves, Celt, Dadledoli, Buddug, Meinir Gwilym, Pedair, Al Lewis, Plu, Mared ymhlith y perfformwyr.

Gŵyl Fach y Fro - Mai 18

Yn y Barri, bydd Fleur de Lys ymysg y bandiau a fydd yn chwarae yng Ngŵyl Fach y Fro.

Gŵyl Canol Dre - Gorfennaf 6

Yng Nghaerfyrddin, bydd nifer o fandiau yn chwarae yng nghanol y dre. Bwncath yw un o'r prif fandiau a fydd yn chwarae yn y sir yn y gorllewin.

Gŵyl Tawe - Mehefin 8

Yn yr ŵyl undydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, bydd Rogue Jones, Breichiau Hir, Das Koolies, Alffa, Kim Hon, N’Famady Kouyaté ac eraill yn chwarae setiau.

Gŵyl Cefni - Mehefin 7 & 8

Bydd rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth Cymru yn ymddangos yn yr ŵyl boblogaidd ar Ynys Môn, gan gynnwys Bwncath, Yws Gwynedd, Meinir Gwilym, Dafydd Iwan, Celt, Fleur de Lys a Mojo.

Prif Lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.