Newyddion S4C

£18m yn 'llygedyn o obaith' yn ystod cyfnod 'heriol ofnadwy' i Amgueddfa Lechi Cymru

Newyddion S4C 10/05/2024

£18m yn 'llygedyn o obaith' yn ystod cyfnod 'heriol ofnadwy' i Amgueddfa Lechi Cymru

Mi fydd Amgueddfa Lechi Cymru yn derbyn “tua £18m” dros y blynyddoedd i ddod er mwyn gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr.

Yn ôl Pennaeth yr amgueddfa yn Llanberis, mae’r cyllid yn “llygedyn o obaith” i’r sector sy’n wynebu cyfnod “heriol ofnadwy”.

Ym mis Ebrill fe gyhoeddodd Amgueddfa Cenedlaethol Cymru y byddai’n rhaid gwneud 90 o ddiswyddiadau oherwydd toriadau i’w cyllideb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn “i ganolbwyntio ar wasanaethau craidd”.

Mi fydd y cyllid i’r amgueddfa lechi yn Llanberis yn dod o sawl cronfa gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain a grant gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl yr amgueddfa mae statws UNESCO Treftadaeth y byd wedi galluogi’r sefydliad i wneud ceisiadau am ragor o grantiau.

Dyma’r buddsoddiad cyntaf “sylweddol ers chwarter canrif”, meddai Elen Wyn Roberts, Pennaeth yr amgueddfa lechi.

“Mae ‘na elfennau o’r adeilad sy’n gwegian erbyn hyn ac mae’r adeilad ei un dros 150 o flynyddoedd oed”.

“Mae’r gwaith cadwraeth yn bwysig ond hefyd  gwella yr isadeiledd, y siop a’r caffi a hefyd gwella profiad yr ymwelydd yn gyffredin a'r orielau”.

Image
Y tu mewn i'r Amgueddfa Lechi

'Heriol ofnadwy'

Fe ddaw’r buddsoddiad wedi pryderon ar draws y sector yng Nghymru o sgil effeithiau toriadau.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething amddiffyn y toriadau i’r amgueddfa genedlaethol gan beidio a chynnig cymorth brys.

Ar y pryd fe, fe rybuddiodd Jane Richards, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, y gallai un o'i safleoedd mwyaf adnabyddus, yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, gau gan fod ei gyflwr yn dirywio.

Yn ôl Elen Wyn Roberts o’r Amgueddfa Lechi mae’r sector yn wynebu heriau enfawr.

“Mae’n gyfnod heriol ofnadwy a bod yn onest," meddai.

“Ond mae’r arian yma yn rhoi llygedyn o obaith ini, mae’n rhoi dyfodol i’r amgueddfa lechi mewn cyfnod mor ansicr."

Mi fydd y gwaith diweddaru felly yn canolbwyntio ar ehangu casgliadau a gwella mynediad ynghyd a sicrhau mwy o gyfleodd i addysgu.

Yn ôl Jon Jo, chwarelwr sy’n gweithio gyda’r Amgueddfa lechi ac o deulu chwe chenhedlaeth o chwarelwyr mae’r newyddion i’w groesawu.

“Mae’n syniad da iawn ac mae’n mynd i gadw sgiliau i fynd a’u harddangos nhw i bobl o bedwar ban byd”.

“Mae’r sgiliau yn mynd yn brin ond dyna pam mae’n bwysig trio cael rhywbeth tu nol iddo i gadw o fynd ynde”.

Image
Jon

Wrth ymateb i bryderon am gyllid fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles.

“Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniafau anodd iawn I ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd”.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths,

"Mae'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth y rhan yma o Gymru ac mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau'r gweithwyr llechi a'u teuluoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.