Newyddion S4C

Trip i'r dafarn? Gwesty'r Vulcan yn ailagor am y tro cyntaf ers 12 mlynedd

11/05/2024
Gwesty'r Vulcan

Fe fydd un o dafarndai hanesyddol Cymru yn croesawu cwsmeriaid unwaith eto pan fydd yn ailagor ddydd Sadwrn.

Caeodd drysau Gwesty'r Vulcan yn 2012, ond yn dilyn ymgyrch i'w achub rhag cael ei ddymchwel fe fydd yn ailagor ei ddrysau a hynny yn amgueddfa werin Cymru yn Sain Ffagan.

Agorodd y dafarn yn 1853 ar Adam Street, Newtown, canolbwynt y gymuned Wyddelig yng Nghaerdydd.

Ar ôl ymgyrch i arbed y dafarn, fe wnaeth tîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru ddymchwel yr adeilad eiconig fesul bricsen a’i symud i Sain Ffagan. 

Bydd y Vulcan ar ei newydd wedd yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, sef blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr, gyda theils brown a gwyrdd yn cael eu hychwanegu ar flaen yr adeilad, ac fe gafodd yr ystafelloedd eu hail-ddylunio.

Image
Y Vulcan Hotel

Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Amgueddfa Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei bod yn “gwybod cymaint mae pobl wedi bod yn edrych ymlaen at weld y dafarn yn agor yn Sain Ffagan”.

“Mae ein tîm o arbenigwyr adeiladau hanesyddol a churaduron wedi bod yn gweithio’n galed i ail-greu’r dafarn yn 1915, a bydd hi’n bleser gweld ymwelwyr yn cael blas ar adeilad arbennig yn hanes Caerdydd.”

Pan fydd hi’n agor i’r cyhoedd bydd y Vulcan yn gwerthu cwrw wedi’i fragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co. 

Prif Lun: Amgueddfa Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.