Newyddion S4C

Rownd gynderfynol gemau ail-gyfle'r Cymru Premier JD: Y Drenewydd v Penybont

Sgorio 11/05/2024
Chwaraewyr Y Drenewydd a Phenybont

Mae’r tymor arferol wedi dod i ben ac mae’r Seintiau Newydd (1af), Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) wedi sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop ar gyfer tymor 2024/25.

Mae un cyfle arall ar ôl i gyrraedd Ewrop trwy’r gemau ail gyfle, a bydd Caernarfon, Met Caerdydd, Y Drenewydd a Pen-y-bont yn brwydro i gyrraedd yno.

Y Drenewydd (4ydd) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:20 (S4C)

Momentwm yw’r gair hud wrth drafod y gemau ail gyfle, ac mae hwnnw ar ochr y ddau dîm yma fydd yn llawn hyder cyn y gêm fawr brynhawn Sadwrn.

Gorffennodd Y Drenewydd y tymor arferol yn gryf gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol (vs Caernarfon a Met Caerdydd), gan golli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf (vs YSN).

Yn yr hanner isaf, collodd Pen-y-bont ond unwaith wedi’r hollt, gan fynd ar rediad arbennig o chwe gêm heb golli, nac heb ildio ar ddiwedd y tymor (ennill 5, cyfartal 1).

Mae’r Drenewydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am yr wythfed tro yn eu hanes, a does neb wedi ennill y gystadleuaeth yn amlach na’r Robiniaid (2 – hafal gyda Bangor).

Y Drenewydd, Met Caerdydd a’r Bala yw’r unig glybiau i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith, ond colli bu hanes y Robiniaid yn y ffeinal llynedd (ar giciau o’r smotyn vs Hwlffordd).

Haf 2021 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle – a hynny ar ôl ennill ym Mhen-y-bont yn y rownd gynderfynol (0-1) cyn curo Caernarfon ar yr Oval yn y ffeinal (3-5).

Tymor 2014/15 yw’r unig dro arall i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle, yn curo oddi cartref ym Mhort Talbot ac Aberystwyth y flwyddyn honno.

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd Ewrop ar bump achlysur yn y gorffennol gan ennill rowndiau yn erbyn Valletta (2015) a HB Torshavn (2022) yn ystod y degawd diwethaf.

Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra).

O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle eleni, Pen-y-bont yw’r unig dîm sydd heb ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol.

Mae Pen-y-bont wedi chwarae’n y gemau ail gyfle ddwywaith o’r blaen, yn colli’n y rownd gynderfynol ar y ddau achlysur - yn erbyn Y Drenewydd yn 2020/21, a’r Fflint yn 2021/22.

Er bod Y Drenewydd wedi gorffen yn uwch yn y tabl na’u gwrthwynebwyr, mae’r record benben ar ochr Pen-y-bont gan nad ydyn nhw wedi colli mewn chwe gêm yn erbyn y Robiniaid (ennill 5, cyfartal 1), ac fe sgoriodd Chris Venables dair gôl mewn dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor.

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅➖➖❌

Pen-y-bont: ͏✅✅✅➖✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.