Oes digon wedi'u wneud i fanteisio ar statws safle Unesco Treftadaeth y Byd yng Ngwynedd?
Oes digon wedi'u wneud i fanteisio ar statws safle Unesco Treftadaeth y Byd yng Ngwynedd?
# Holl amrantau'r sêr ddywedant # Ar hyd y nos #
Tirlun sy'n adrodd cyfrolau. Mae dylanwad cymunedau'r fro wedi'i naddu i'r graig ac yn dyst i'r chwyldro economaidd a chymdeithasol ddigwyddodd yma.
Erbyn heddiw, mae'r hen chwareli yn fwy o faes chwarae ond tair blynedd ers ei dynodi'n safle Unesco Treftadaeth y Byd mae pryder nad oes digon wedi'u wneud i fanteisio ar y statws.
"Wnaethon ni gyfweld a bron i 30 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 wnaeth dyfu i fyny yn yr ardal ac yn byw yn yr ardal. Wnaethon ni holi nhw am eu persbectif o statws Unesco.
"Roedd rhai'n cwestiynu os oedd o jyst yn deitl ac o'n nhw eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn yr ardal. Oedden nhw'n meddwl am wella'u sgiliau ac am eu gyrfaoedd ac oedden nhw eisiau aros yma.
"Oedden nhw'n caru'r lle ond eisiau gweld swyddi o ansawdd yn dod ar ôl cael y statws newydd."
I'r ifanc felly sy'n byw a dysgu yng nghysgod y chwarel beth felly maen nhw am ei weld?
" 'Swn i'n hoffi os o'dd e'n amlycach i'r ymwelwyr sy'n dod yma o'r hanes. Trio annog nhw i ddysgu am y chwarel. Y pethau sy'n amgylchynu'r Wyddfa achos mae mwy na iddi na hynna."
"Ella bod rhai'n dod am wyliau a ddim yn sylweddoli'r hanes yr ardal. I bobl sy'n byw yma fel ni y gwreiddiau a'r hanes ydy'r pethau pwysicaf am yr ardal."
"Dw i'n gobeithio bydd mwy'n dod yma yn lle trin o fel maes chwarae bod o'n lle i ddysgu am ein diwylliant a'n hiaith."
" 'Swn i'n licio cysylltiad mwy efo'r cymunedau o amgylch Llanberis fel Llanrug, Waunfawr a'r chwarel ei hun."
Gyda channoedd ar filoedd yn dod yma bob blwyddyn felly mae addysgu ymwelwyr yn flaenoriaeth ond yn ol rheiny fu wrth galon yr ymdrech i ddenu'r statws maen nhw'n mynnu bod unrhyw newid sylweddol yn cymryd amser.
"Fyswn i ddim yn disgwyl bod ni'n gweld llawn ffrwyth yn dŵad am bedair neu bum mlynedd arall ond mae pethau'n digwydd rwan. Penwythnos diwethaf, roedd 80 o bobl o 30 gwlad gwahanol wedi dod i Gaernarfon ac i Lanberis oherwydd y statws yma.
"Mae'r peth yn digwydd ond dim bob amser yn weladwy. Dros gyfnod, bydd o'n adeiladu at yr economi a'r cyfleon i'r ifanc."
O fuddsoddiad i'r Amgueddfa Lechi i glustnodi cyllid newydd i ail wampio canol trefi a phentrefi mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod gwaith da ar y gweill gyda'r nod o roi cymunedau'r fro wrth galon stori'r ardal hon.