Miloedd o ddisgyblion yn hunan-ynysu

Miloedd o ddisgyblion yn hunan-ynysu
Mae miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achosion o Covid-19.
Yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, cofnodwyd 238 achos positif ymhlith disgyblion ac athrawon yn yr wythnos hyd at Mehefin 23 – 15% o achosion y wlad.
Mae dros hanner yr achosion hynny, 119, mewn ysgolion yn y gogledd.
‘Panic a sioc’
Ymhlith rheini sy’n hunan-ynysu mae disgyblion blwyddyn 12 Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.
Mae rhai o’r disgyblion yno wedi bod yn rhannu eu profiadau o ddychwelyd i ddysgu ar-lein gyda rhaglen Newyddion S4C.
“Odd o jyst chydig o banic a sioc, a do'n i'm yn gwybod be odd yn mynd i ddigwydd yn iawn,” meddai Begw sy’n ddisgybl yn yr ysgol.
“Oedd bob dim reit bizarre gan bo ni heb gael profiad o orfod hunan-ynysu fel blwyddyn.”
Yn ôl Alys a Faye, sydd hefyd ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Syr Hugh Owen mae hi wedi bod yn “rhwystredig” ac yn “rhyfedd” dychwelyd i ddysgu ar-lein.
“Dwi'n ffeindio fo'n iawn o ran neud y gwaith, os 'da ni'n dallt y gwaith,” meddai Alys.
“Ond dwi'n teimlo fod o'n anodd os 'da ni ddim cweit yn siŵr be i neud, neu os oes 'na ryw broblem.”
“Mae’n rhyfedd bod yn ôl i yn y tŷ,” ychwanegodd Faye.
“'Da ni di cael ryw fath o ryddid wan ers mis Mawrth pan nath y lockdown godi, a dwi'n meddwl ma'r peth mwya' rhyfedd di tro 'ma dydy pawb arall ddim yn yr un sefyllfa.”
Mae hyd at ddwy ran o dair o'r profion positif diweddar yn cynnwys pobl o dan 30 oed; mae traean o dan 20 oed.
Wrth i'r achosion gynyddu ymhlith pobl ifanc, mae’r Gweinidog Addysg wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno system fwy lleol ym mis Medi.
Dywedodd Jeremy Miles y bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau a phrofi mewn ysgolion yn ddibynnol ar amgylchiadau lleol o hyn allan.