Newyddion S4C

Pryderon y gallai rhagor o fabanod farw o’r pas

10/05/2024
Babi'n dal bys

Mae yna bryderon cynyddol y gallai rhagor o fabanod farw o ganlyniad i’r pas (whooping cough), yn ôl arbenigwr.

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn cael eu brechu.

Cafodd 122 o achosion eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr wythnos yn diweddu 18 Mawrth – y cyfanswm wythnosol uchaf ers diwedd 2012.

Wrth siarad ddydd Gwener dywedodd Syr Andrew Pollard, cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, y gallai clo mawr Covid fod wedi effeithio ar y cynnydd mewn achosion.

Ond dywedodd mai’r “broblem fwyaf” mewn gwirionedd yw cyfraddau brechu isel, yn enwedig ymhlith merched beichiog.

Mae derbyn y brechlyn yn ystod beichiogrwydd yn helpu i bontio'r bwlch imiwnedd o'r adeg y caiff babanod eu geni hyd nes y gallant hwy eu hunain gael eu brechu.

Dywedodd Syr Andrew Pollard wrth raglen Today ar BBC Radio 4 bod peidio brechu yn “rhoi’r rhai mwyaf agored i niwed – y rhai sy’n rhy ifanc i gael eu brechu – mewn perygl”.

Dywedodd mai’r “unig beth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd” am achosion cynyddol yw sicrhau cyfraddau brechu uwch.

“Mae wedi bod yn bryderus gweld cwymp o uchafbwynt o tua 75% o fenywod yn cael eu brechu yn ystod beichiogrwydd i lai na 60% heddiw, a dyna sy’n rhoi’r babanod ifanc iawn hyn mewn perygl arbennig,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.