Newyddion S4C

Rhybudd melyn i Gymru wrth i law trwm a tharanau ddod â’r tywydd braf i ben

10/05/2024
Mellt a tharanau

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer y rhan helaeth o Gymru wrth i’r tywydd braf ddod i ben ddydd Sul.

Bydd y rhybudd ar gyfer glaw trwm a tharanau mewn grym o 12.00 nes 22.00 ddydd Sul.

Mae’r rhybudd mewn grym ar gyfer holl siroedd Cymru heblaw am Sir Benfro.

Gallai llifogydd sydyn arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd a bod yn “beryg i fywyd”, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae siawns o oedi a rhai gwasanaethau trên a bws yn cael eu canslo, ac y gallai pŵer i rai cartrefi a busnesau gael ei golli.

Mae siawns fach hefyd y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd yn gyflym, gyda difrod i rai adeiladau oherwydd llifddwr, mellt yn taro, cenllysg neu wyntoedd cryfion, medden nhw.

“Mae cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau yn debygol yn hwyr fore Sul ac yn gynnar prynhawn Sul, gan symud yn raddol i'r gogledd cyn clirio,” meddai’r Swyddfa Dywydd.

“Mae rhywfaint o law trwm yn bosibl mewn rhai mannau, gyda hyd at 30 mm mewn llai nag awr ac efallai 40-50 mm dros 2 i 3 awr gan arwain at lifogydd.

“Bydd cenllysg, mellt yn taro'n aml a hyrddiau gwynt cryf yn creu perygl ychwanegol.”

Y siroedd

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam
  • Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.