Dim llacio cyfyngiadau coronafeirws cyn 19 Gorffennaf yn Lloegr

Mae Ysgrifennydd Iechyd newydd Llywodraeth y DU, Sajid Javid, wedi cyhoeddi na fydd cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr yn cael eu llacio cyn 19 Gorffennaf.
Yn ei ddatganiad cyntaf wedi ei benodiad i'r swydd dros y penwythnos, dywedodd Mr Javid wrth aelodau seneddol ei fod wedi cynnal trafodaethau â Boris Johnson, gan gytuno na fyddai'r pedwerydd cam yn y broses lacio yn cael ei weithredu o flaen ei amser.
Yn ôl Sky News, roedd disgwyl i'r llywodraeth lacio cyfyngiadau ar 5 Gorffennaf, ond fe gadarnhaodd Sajid Javid y byddai'r llywodraeth yn parhau â'u cynllun gwreiddiol i lacio cyfyngiadau 19 Gorffennaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.