Newyddion S4C

Teulu dyn yn galw am atebion ar ôl disgwyl dwy flynedd am gwest

09/05/2024
Hywel Morgan.

Mae teulu dyn a foddodd ddwy flynedd yn ôl ar ôl mynd i'r môr i achub dau blentyn wedi dweud eu bod eisiau atebion.

Cafodd Hywel Morgan, 47, ei dynnu o’r môr ar Draeth Poppit ger Llandudoch, Sir Benfro ym mis Mehefin 2022.

Y gred yw bod Mr Morgan wedi mynd i mewn i’r dŵr i helpu i achub grŵp o blant oedd wedi mynd i drafferthion, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mewn gwrandawiad adolygu cyn cwest yn adeilad Cyngor Sir Benfro ddydd Iau, dywedodd chwaer Mr Morgan eu bod eisiau atebion i amgylchiadau ei farwolaeth ar ôl i'r crwner ddweud nad oedd rhai datganiadau gan dystion wedi'u casglu eto.

Dywedodd Marian Morgan wrth y crwner: “Rydym eisiau darganfod yn union beth ddigwyddodd.

“Rydyn ni wedi cael gwybod am bethau gwahanol gan wahanol bobl - rydyn ni angen diweddglo.”

Roedd Paul Bennett, uwch grwner dros dro Sir Benfro, wedi cynnal y gwrandawiad i edrych ar ba dystiolaeth tyst fyddai ei angen mewn cwest yn y dyfodol.

Mae Mr Bennett wedi cynnig ymddiheuriad gan ddweud mai dim ond yn ddiweddar y daeth i'w sylw nad yw'r heddlu wedi cwblhau rhai datganiadau tystion eto. 

Ychwanegodd ei fod wedi cyfleu ei bryderon i'r heddlu a'u bod yn edrych i mewn i'r mater.

Mae disgwyl i wrandawiad adolygu cyn-cwest arall gael ei gynnal rhwng Medi a Hydref eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.