Newyddion S4C

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn 'gobeithio dod â’r gymuned at ei gilydd'

11/05/2024
Gwyl fwyd caernarfon

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd i’r dref am y seithfed tro ddydd Sadwrn.

Ers 2016, mae’r ŵyl wedi denu miloedd o bobl o Gymru a thu hwnt – y llynedd roedd 35,000 o bobl wedi heidio i dref y Cofis.

Yn ôl y trefnwyr, y prif atyniad yw’r cynnyrch Cymreig, ac mae dros 120 o stondinau bwyd a diod eleni, gyda 90% ohonynt yn fusnesau lleol.

Ond mae’r digwyddiad blynyddol hefyd yn “dod â’r gymuned at ei gilydd”, yn ôl Nici Beech, cadeirydd pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon.

“‘Da ni’n trio’n gorau i roi amrywiaeth o fwydydd diddorol ac adloniant, ac mae’n achlysur sy'n dod â phobl at ei gilydd mewn awyrgylch braf, ymlaciedig,” meddai. 

'Ardal newydd i'r teulu

Er mwyn croesawu rhagor o ymwelwyr ieuengach, bydd ardal arbennig ar gyfer teuluoedd eleni.

“Mae nifer fawr o deuluoedd yn dod i’r ŵyl, felly roedd yn gam naturiol i ddatblygu’r ardal yma ym Mharc Coed Helen,” meddai.

Bydd lloc anifeiliaid Coleg Glynllifon yn cael ei ail-leoli yn yr ardal, ac fe fydd sefydliadau'r Urdd a Byw’n Iach yn cynnal gweithgareddau chwaraeon yno.

Yn ogystal, bydd Pentref Bwyd Môr “llawn bwrlwm” i’w weld am y tro cyntaf yn Cei Llechi, sydd wedi ei drefnu ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Bydd y pentref yn cynnwys arddangosfeydd coginio gan gogyddion “diddorol” a gweithgareddau “hwyliog” sy’n ymwneud â’r môr, gan gynnwys celf ryngweithiol a cherddoriaeth.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ŵyl hefyd wedi dod yn adnabyddus am ei harlwy cerddorol. 

Ar lwyfannau’r ŵyl eleni bydd y cerddorion yn cynnwys Bob Delyn a’r Ebillion a Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas.

Image
Gwyl Fwyd Caernarfon 2024
Darn o gelf gan Iestyn Tyne sy’n cyfleu amrywiaeth yr arlwy a fydd ar gael yn yr ardal teuluoedd newydd eleni

Er bod yr ŵyl yn tyfu ac yn costio dros £50,000 i'w chynnal, mae'n parhau i fod yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Nici Beech bod sicrhau hynny'n heriol ar adegau yn sgil costau cynyddol.

“Mae costau’n cynyddu bob blwyddyn,” meddai.

“Y mwyaf mae’r ŵyl yn mynd, y mwyaf ‘da ni ei angen o ran diogelwch a gwasanaethau meddygol er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel.”

Ar hyn o bryd, mae’r ŵyl yn dibynnu ar grantiau gan gynghorau lleol yn ogystal â nawdd gan fusnesau'r dref. 

‘Pwysig’ bod yr ŵyl am ddim

Er gwaetha'r heriau ariannol, mae Ms Beech yn dweud ei bod yn “bwysig iawn” bod yr ŵyl yn parhau i fod yn rhad ac am ddim.

“Yn ymarferol, mae’n amhosib codi ar bobl i ddod i ŵyl sydd yng nghanol tref, a dyna sy’n gwneud yr ŵyl yn unigryw - mae’n dod a phobl i ganol Caernarfon,” meddai.

“Mae pobl yn crwydro’r dref, yn ymweld â busnesau eraill sydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl wrth roi stondinau y tu allan i’w busnesau, ac mae’r tafarndai a’r bwytai i gyd yn brysur. 

“Mae pawb yn elwa, a ‘da ni ddim eisiau i hynny newid o gwbl - mi fysa ni’n newid natur yr ŵyl yn llwyr os fysa’n rhaid i ni fynd i ryw gae yn rhywle.”

Ychwanegodd: “‘Da ni’n lwcus iawn o gael Caernarfon fel tref sy’n benthyg ei hun i ddigwyddiadau o’r fath.” 

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn rhwng 10:00 a 17:00. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.