Newyddion S4C

Prifathro'n gwadu meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn

09/05/2024

Prifathro'n gwadu meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn

Mae prifathro dwy ysgol yng Ngwynedd wedi dweud wrth reithgor nad oedd wedi meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn.

Yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, fe wadodd Neil Foden, 66 oed, ei fod wedi meithrin perthynas gyda merch gyda'r bwriad o'i cham-drin yn rhywiol.

Mae Mr Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn wynebu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023.

Mae’n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Mr John Philpotts, fe awgrymodd y bargyfreithiwr: “Cam wrth gam, fe wnaethoch chi baratoi i gam-drin y plentyn yma [merch sy’n cael ei hadnabod gan y llys fel Plentyn A] yn do?”

“Naddo, nes i ddim,” atebodd Neil Foden.

Fe ddangosodd yr erlyniad fideo i’r llys, sy’n honni i ddangos Neil Foden yn gafael yn nwylo Plentyn A yn ei gar.

“Pam eich bod yn gafael yn llaw [Plentyn A] Mr Foden?” gofynnodd John Philpotts.

“Roedd hi’n amlwg mewn gwewyr ar y pryd, ac roeddwn yn ceisio ei chysuro," atebodd Mr Foden.

Lluniau

Roedd y llys wedi gweld cyfres o luniau yn flaenorol, oedd yn ôl yr erlyniad, yn rhai anweddus o Blentyn A, oedd wedi eu darganfod ar ffôn Neil Foden pan gafodd ei arestio ym mis Medi 2023, ac roedd y lluniau wedi eu gyrru dros gyfnod o amser.

Roedd Neil Foden wedi dweud wrth y llys nad oedd wedi cael “unrhyw foddhad rhywiol” o fod wedi derbyn y lluniau.

Pan ofynnodd Mr Philpotts wrth Neil Foden pam na ofynnodd wrth y plentyn i stopio anfon y lluniau ato, fe ddywedodd Mr Foden nad oedd yn gallu dweud wrth y ferch i stopio, gan ei bod yn dioddef gyda phroblemau yn ymwneud â’i hunan-hyder.

 Petai wedi gwneud hynny fe fyddai’r ferch wedi “gweld hynny fel beirniadaeth” ac felly yn “niweidiol iddi” meddai Neil Foden.

“Pam na wnaethoch chi fynd â’r lluniau at swyddog diogelu plant?” gofynnodd John Philpotts.

“Roedd [Plentyn A] ofn i’w theulu ffendio allan ei bod wedi tynnu lluniau o’r fath, felly er mwyn ei gwarchod rhag hynny, nes i ddim eu reportio nhw” atebodd.

Dyddiadur

Fe ddarllenwyd cofnodion o ddyddiadur oedd wedi ei gadw gan Blentyn A yn ystod cyfnod y cam-drin honedig, gydag un cofnod yn dweud fod Mr Foden wedi dweud wrth y plentyn ei fod wedi cymryd rhan mewn gweithred rywiol wrth edrych ar y lluniau yr oedd hi wedi eu hanfon ato. 

Ond gwrthododd Neil Foden ei fod erioed wedi gwneud na dweud hynny wrth Blentyn A.

Fe orffennodd yr erlyniad eu croesholiad o Neil Foden gan awgrymu: “Mae [Plentyn E, Plentyn A, Plentyn B, Plentyn C a Plentyn D] i gyd yn dweud y gwir, am beth wnaethoch chi iddyn nhw yn tydyn nhw Mr Foden?”

“Tydi nhw ddim Mr Philpotts,” atebodd y diffynnydd.

Mae’r achos yn parhau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Cymorth S4C.

Llun: Peter Byrne/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.