Newyddion S4C

Tri o bobl wedi mynd ar goll o dan ddaear mewn chwarel yng ngogledd Cymru

09/05/2024
Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn chwilio yn chwarel Croesor

Mae tri o bobl oedd wedi mynd ar goll o dan ddaear mewn chwarel yng ngogledd Cymru wedi cael eu hachub ar ôl "sawl awr" o chwilio.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am dri o bobl oedd ar goll o dan ddaear yn chwarel Croesor, Llanfrothen yng Ngwynedd nos Lun.

Cafodd Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru eu galw i chwilio'r ogof tra bod Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ar gael i gynnig cymorth ger mynedfa'r chwarel o 1.00 y bore ymlaen.

Roedd gweithwyr meddygol ar gael i helpu unrhyw un oedd wedi dioddef anafiadau yn y digwyddiad.

Image
Chwarel Croesor
Aelodau Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ger mynedfa'r chwarel. Llun: Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn

Dywedodd lefarydd ar ran Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru bod y tri pherson oedd ar goll wedi cael eu lleoli a'u cynorthwyo allan o'r chwarel wedi oriau o chwilio.

"Cafwyd hyd i un o'r rhai oedd ar goll ar waelod y dringen cyntaf yng Nghroesor ar ôl iddo ddychwelyd o ochr Rhosydd i'r system," meddai.

"Eglurodd nad oedd y parti wedi llwyddo i ddod o hyd i'w ffordd allan o Rhosydd a'i fod wedi penderfynu dychwelyd er mwyn tynnu sylw at hyn.

"Yn anffodus, wedi cyrraedd y dringen olaf i fyny fe wnaeth o ddarganfod nad oedd y rhaff yr oeddent wedi ei ddefnyddio yno bellach a bod y rhaff arall oedd yn bresennol wedi ei thynnu ran o'r ffordd i fyny'r dringen ac nad oedd modd ei chyrraedd. 

"Ar ôl ymchwilio ymhellach, canfuwyd bod y grŵp wedi defnyddio rhaff a osodwyd gan grŵp arall a oedd yn gwneud y daith drwodd y diwrnod hwnnw. 

"Ar ôl cwblhau eu taith roedd y grŵp hwn wedi dychwelyd a thynnu eu rhaff.

"Peidiwch â dibynnu ar unrhyw offer y gallech ddod o hyd iddo a mynd â'ch offer eich hun. Mae hefyd yn syniad da i chi gymryd golwg ar y llwybr o ochr Rhosydd er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod y ffordd allan."

Image
Llun gan
Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru

Cafodd y bobl eu hebrwng yn ôl i'w cerbydau.

Roedd y tîm achub mynydd wedi dod â'u gwaith i ben am 06:30.

Prif lun: Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.