Darlun a gafodd ei guddio mewn chwarel llechi yn Eryri yn dychwelyd i Gymru
Darlun a gafodd ei guddio mewn chwarel llechi yn Eryri yn dychwelyd i Gymru
Mae darlun a dreuliodd bedair blynedd mewn chwarel llechi yn Eryri yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dychwelyd i Gymru.
Roedd y paentiad, The Stonemason’s Yard (c. 1725) yn hongian yn Oriel Genedlaethol Llundain ar ddechrau’r 20fed ganrif cyn i awdurdodau Prydain ei symud i Gymru i'w gadw'n saff yn ystod y Blitz.
Roedd Canaletto, artist y paentiad, yn arlunydd Fenisaidd. Yn The Stonemason’s Yard, mae’n darlunio golygfa o ffigurau wrth eu gwaith yn y Campo San Vidal, rhan o ddinas Fenis.
Mae'r darn wedi dychwelyd i Gymru ar gyfer arddangosiad yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd bu llywodraeth Prydain yn ymchwilio i ffyrdd o gadw trysorau amgueddfa pwysig yn ddiogel.
Un syniad oedd anfon y gwaith i Ganada, ond gwrthodwyd y cynllun hwnnw oherwydd pryderon ynghylch ymosodiadau yn ystod cludiant.
Yn ôl The National Gallery, dywedodd Winston Churchill, “cuddiwch nhw mewn ogofâu a seleri, ond ni fydd yr un darlun yn cael gadael yr ynys hon".
'Stori hynod ddiddorol'
Penderfynodd swyddogion ar chwarel y Manod yn Eryri fel y lleoliad gorau. Defnyddiodd arbenigwyr ffrwydron i wneud mynedfa'r chwarel yn fwy ac adeiladu ystafelloedd y tu mewn fel y byddai'r paentiadau'n cael eu hamddiffyn yn well rhag newidiadau tymheredd.
Aeth paentiadau i mewn i’r chwareli a phyllau glo yn haf 1941 ac ni ddaethant allan tan ar ôl i’r rhyfel ddod i ben ym 1945.
Yn dilyn y rhyfel, dychwelodd The Stonemason’s Yard i Oriel Genedlaethol Llundain.
Nawr, 80 mlynedd yn ddiweddarach, mae darn Canaletto yn mynd ar fenthyg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o’i dathliadau 200 mlynedd.
Dywedodd Mari Elin Jones, swyddog dehongliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth y Guardian ei fod yn gyffrous cael gallu rhannu'r gwaith gyda'r cyhoedd.
“Mae gallu croesawu campwaith Canaletto yn ôl i Gymru ar ôl cymryd lloches yma 80 mlynedd yn ôl yn hynod gyffrous, ac ni allwn aros i rannu’r stori hynod ddiddorol hon â’r cyhoedd," meddai.
“Mae’n bortread hardd o ddinas, ond mae hefyd yn bortread hyfryd o’r bobl a greodd y ddinas honno, yn ddathliad nid yn unig o’r darluniadwy ond o ddiwydiant hefyd.
“Mae diwydiant wedi llunio’r ffordd y mae ein gwlad yn edrych ac wedi siapio’r Gymru fodern. Fydden ni ddim byd heb ein diwydiant.”
Bydd y paentiad yn hongian yn Oriel Gregynog y llyfrgell gyda darnau modern, yn ogystal â gweithiau nodedig gan artistiaid o’r 18fed a’r 19eg ganrif, gan gynnwys Richard Wilson, Penry Williams a J. M. W. Turner.
Bydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld rhwng ddydd Gwener 10 Mai 10 a 7 Medi.
Prif lun: The National Gallery