Peryg y gallai AI sy’n dod â phobl marw nôl yn fyw achosi ‘poen ychwanegol’
Mae peryg y gallai meddalwedd AI sy’n dod â phobl marw nôl yn fyw achosi “poen ychwanegol” i bobl sy’n galaru, yn ôl ymchwilwyr.
Mae’r hyn a elwir yn ‘deadbots’ yn efelychu iaith a phersonoliaethau pobl sydd wedi marw gyda’r nod o gynnig cysur i oroeswyr.
Mae'r ymchwil newydd gan Brifysgol Caergrawnt yn awgrymu fod angen eu rheoleiddio er mwyn atal achosi niwed seicolegol.
Mae rhai cwmnïau eisoes yn cynnig gwasanaethau sy’n caniatáu i declyn sgwrsio AI efelychu patrymau iaith a nodweddion personoliaeth person marw gan ddefnyddio’r ‘ôl troed digidol’ maen nhw wedi’i adael ar ôl.
Ond dywedodd Dr Tomasz Hollanek o Ganolfan Dyfodol Cudd-wybodaeth Leverhulme Caergrawnt bod “risg uchel” mewn troi at AI o’r fath am gysur.
“Mae’n hanfodol bod gwasanaethau bywyd ar ôl marwolaeth digidol yn ystyried hawliau nid yn unig y rhai sy’n cael eu hatgyfodi ar ffurf ddigidol, ond y rhai y bydd yr AI yn rhyngweithio â nhw,” meddai.
“Mae’r gwasanaethau hyn mewn perygl o achosi trallod enfawr i bobl os ydi fersiynau AI o’r meirw yn dychwelyd i’w poeni nhw heb groeso i wneud hynny.
“Gallai’r effaith seicolegol bosibl, yn enwedig ar adeg sydd eisoes yn anodd, fod yn ddinistriol.”
Ymysg y pryderon yw y gallai cwmnïoedd ddefnyddio ‘deadbots’ i hysbysebu cynnyrch, neu y gallai rhyngweithio gyda rhiant marw ar ffurf ddigidol achosi gofid ychwanegol i blant.