Newyddion S4C

'Teulu' o gefnogwyr Wrecsam yn gymorth ar ôl gadael y fyddin

09/05/2024
Neil Jones

Mae dyn o Gaernarfon sydd bellach yn byw yn Wrecsam wedi dweud bod "teulu" o gefnogwyr y clwb wedi bod o gymorth fawr iddo ar ôl gadael y fyddin.

Yn yr haf y llynedd roedd Neil Jones wedi gadael y fyddin wedi bron i chwarter canrif yno, gan ddechrau swydd newydd yn Wrecsam.

Wrth siarad ar raglen S4C Wrecsam: Clwb Ni, dywedodd Mr Jones bod y cyfeillgarwch yn sgil perthyn i "deulu" o gefnogwyr y tîm wedi bod o gymorth mawr wrth iddo brofi newid yn ei fywyd.

"Nes i orffen yn yr army ar ôl 24 mlynedd haf llynedd, a nes i ddechrau job newydd yn Wrecsam," meddai.

"Yn lwcus iawn, o’dd o’n transition neis. Mae lot o filwyr yn stryglo efo peidio cael y camaraderie ‘na ar ôl iddyn nhw orffen yn y fyddin; maen nhw ar ben eu hunain ac yn teimlo ar goll. 

"Ond mae hyn wedi golygu bod gen i lwyth o ffrindiau o’m cwmpas i.”

Mae Neil wedi addasu'i garej i'r hyn mae’n ei alw’n man cave. Bwriad gwreiddiol y lle oedd i gadw trugareddau’r clwb a chwarae darts, ond mae wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn gyrchfan i griw da o gefnogwyr Wrecsam cyn bob gêm.

'Cymorth cefnogwr o Ganada'

Mae enwogrwydd y clwb yn denu ymwelwyr newydd o bell i’r dref, ac wedi creu cyfeillgarwch newydd i Neil Jones hefyd.

Dwy flynedd yn ôl fe wnaeth o gwrdd â Bud yn nhafarn y Turf yn Wrecsam. Roedd Bud, sy’n byw yng Nghanada, draw yn Llundain gyda’i waith, ac wedi iddo sylwi bod gêm yn Wrecsam yr un adeg, penderfynu mynd i’w gwylio.

“Na’th o ddweud bod ganddo unlle i aros y noson honno gan fod hotels y dref i gyd yn llawn,” meddai Neil.

"Felly nes i ddeud wrtho base fo’n cael aros yn y stafell sbâr. A ‘dan ni’n fêts ers hynna. 

"Mae o’n dod drosodd bob blwyddyn, ac yn aros efo ni. Weithiau mae o’n ymuno efo ni ar-lein i wylio gemau hefyd.” 

Bydd Wrecsam: Clwb Ni ar gael i'w wylio nos Iau, 9 Mai am 21.00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.