Newyddion S4C

Disgwyl protestiadau wrth i Israel berfformio yn rownd gyn-derfynol Eurovision

09/05/2024
Eden Golan

Mae disgwyl protestiadau wrth i Israel gystadlu yn ail rownd gyn-derfynol Eurovision nos Iau.

Bydd Eden Golan yn cystadlu ar ran Israel yn y gystadleuaeth yn Malmo, Sweden.

Mae cân Hurricane y gantores 20 oed wedi ei addasu o gân flaenorol o’r enw October Rain a’r gred oedd bod y teitl hwnnw yn cyfeirio at ymosodiad Hamas ym mis Hydref y llynedd.

Mae Israel wedi wynebu galwadau i gael eu diarddel o’r gystadleuaeth yn dilyn y rhyfel yn Gaza.

Yn ôl gweinyddiaeth iechyd y diriogaeth sy’n cael ei redeg gan Hamas, mae Israel wedi lladd 34,000 o bobl.

Dywedodd Eden Golan wrth ITV News yr wythnos hon na allai fod wedi gofyn “am flwyddyn well i fod yn cynrychioli fy ngwlad”.

Mae heddlu Sweden wedi dweud eu bod nhw yn disgwyl i draffig yn ninas Malmo i gael ei atal am gyfnod oherwydd gorymdaith o blaid Palestina.

Yn y cyfamser mae artistiaid eraill wedi gwrthwynebu galwadau i foicotio'r gystadleuaeth.

Fe arwyddodd y cantorion a fydd yn cystadlu yn erbyn Israel nos Iau ddatganiad ym mis Mawrth yn galw am gadoediad a dychwelyd gwystlon i Israel.

Roedd y datganiad yn dweud eu bod nhw’n “creu’n gryf y bydd cerddoriaeth yn dod a ni at ein gilydd”.

Mae Israel wedi bod yn gystadleuydd cryf yn Eurovision yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill yn fwyaf diweddar gyda Netta’s Toy yn 2018 a chyrraedd y rownd derfynol 12 gwaith ers 2003.

Bydd BBC One a BBC iPlayer yn darlledu'r ail rownd gynderfynol o 8pm nos Iau.

Llun: Eden Golan gan Eurovision.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.