Newyddion S4C

Dadorchuddio plac newydd er cof am Phil Bennett yn Llanelli

08/05/2024
Plac Phil Bennett

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dadorchuddio plac newydd er cof am Phil Bennett yn Llanelli.

Mae'r plac wedi ei leoli ar y bont i gerddwyr a beicwyr yn Llanelli ac yn "anrhydeddu cyflawniadau chwaraeon arbennig Bennett yn ogystal â chydnabod ei gyfraniadau sylweddol i'r gymuned a oedd yn gartref iddo," meddai'r cyngor.

Bu farw Bennett ar 12 Mehefin y llynedd yn 73 oed.

Mae'n cael ei gofio fel un o'r chwaraewyr rygbi gorau yn hanes Cymru.

Roedd y gŵr o Felin-foel yn rhan allweddol o fuddugoliaeth gofiadwy Llanelli o 9-3 dros Seland Newydd ym Mharc y Strade yn 1972.

Fe enillodd 29 o gapiau i Gymru, gan ymuno â'r Llewod yn ystod eu teithiau yn 1974 a 1977.

Mae dadorchuddio Carreg Goffa Phil Bennett ar y bont yn nodi'r drydedd gofeb wedi'i gysegru iddo yn Llanelli.

'Dathlu arwyr'

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin bod y cyngor yn falch o ddadorchuddio'r plac.

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hynod falch o anrhydeddu Phil Bennett, un o gewri byd rygbi Cymru, drwy ddadorchuddio'r plac newydd hwn er cof amdano.

“Wrth goffáu Phil Bennett a'r hyn mae wedi'i roi i ni, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i feithrin cymuned sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu ei harwyr chwaraeon." 

Llun: Asiantaeth Huw Evans/Cyngor Sir Caerfyrddin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.