Traean o bobl wedi eu 'sgamio ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf'
Mae traean o bobl wedi cael eu sgamio wrth ddefnyddio safleoedd gwerthu nwyddau ail-law ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn ôl arolwg newydd.
Mae'r arolwg gan Which? yn awgrymu fod twyll "ar gynnydd" ar safleoedd o'r fath ar-lein ar ôl dod i gasgliad fod 32% o brynwyr wedi profi sgam wrth eu defnyddio.
Dywedodd prynwyr eu bod wedi derbyn y nwyddau anghywir (15%) neu ddim nwyddau o gwbl (15%) tra bod 11% wedi derbyn pecyn gwag a 10% wedi derbyn nwyddau ffug.
Mae pobl yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus pan yn siopa ar blatfformau ail-law, ac i wirio adolygiadau a phroffil y gwerthwr.
'Pryderus'
Dywedodd cyfarwyddwr polisi Which?, Rocio Concha: "Gall marchnadoedd ail-law ar-lein fod yn ffyrdd gwych o arbed arian a siopa mewn ffordd fwy gynaliadwy felly mae'n bryderus fod traean o brynwyr wedi profi sgam yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Pan yn prynu ac yn gwerthu nwyddau ail-law ar-lein, mae'n bwysig fod pobl wir yn gwirio adolygiadau a phrofil y gwerthwr, yn enwedig os ydyn nhw'n edrych am nwyddau drud.
"Ond, ni ddylai'r cyfrifoldeb ddisgyn yn gyfan gwbl ar brynwyr i amddiffyn eu hunain. Mae angen i'r platfformau hyn sicrhau fod profion yn cael eu gwneud i atal y rhai sy'n sgamio rhag gwerthu yn y lle cyntaf, a bod unrhyw broffil sgam yn cael ei ddileu yn gyflym."