Cwpwl yn cyfaddef twyll ar ôl gadael bwytai heb dalu
Mae cwpwl o Bort Talbot wedi cyfaddef eu bod wedi bwyta mewn sawl bwyty yn yr ardal cyn gadael heb dalu.
Fe blediodd Bernard McDonagh, 41, ac Ann McDonagh, 39, o ardal Traethmelyn yn euog i bump achos o dwyll yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher.
Clywodd y llys eu bod wedi methu a thalu £1,168.10 mewn pum bwyty gwahanol. Roedd dau o'r bwytai wedi rhoi eu lluniau ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.
Roedd Ann McDonagh hefyd wedi pledio’n euog i bedair achos o droseddau lladrata gwerth £1,017.60, wedi iddi ddwyn o siop Tesco yn Abertawe, yn ogystal â Tommy Hilfiger a Sainsbury’s mewn parc siopa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe ddigwyddodd y troseddau yna rhwng 6 Medi'r llynedd a 25 Chwefror eleni.
Roedd y pâr wedi pledio’n euog i’r twyll yn dilyn digwyddiadau rhwng 9 Awst y llynedd a 19 Ebrill eleni.
Clywodd y llys fod y pâr wedi archebu gwerth £267 o fwyd a diod iddyn nhw eu hunain a’u teulu ym mwyty River House yn Abertawe ar 9 Awst y llynedd, “heb unrhyw fwriad i dalu.”
Eleni, fe wnaethon nhw archebu gwerth £276.60 o fwyd ym mwyty La Casona yn Sgiwen ar 23 Chwefror heb dalu, yn ogystal â gwerth £99.40 o fwyty Golden Fortune ym Mhort Talbot ar 31 Ionawr.
Fe wnaethon nhw yr un peth ym mwyty Isabella’s ym Mhorthcawl - gwerth £196 -a gadael bwyty Bella Ciao yn Abertawe ar 19 Ebrill heb dalu bil o £329.10.
Roedd dau o'r bwytai, y Bella Ciao a’r River House, wedi rhannu neges ar eu cyfryngau cymdeithasol ar y pryd, gan gyhuddo'r cwpwl a’u teulu o fwyta yno heb dalu.
Plediodd Ann McDonagh hefyd yn euog i gyhuddiad o atal heddwas yn ei waith yng ngorsaf heddlu Ffordd y Frenhines ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 13 Mawrth.
Mi fydd y cwpwl yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Mai.