Newyddion S4C

Trefnwyr Marathon Casnewydd yn ymddiheuro am fod llwybr y ras yn rhy hir

ITV Cymru 08/05/2024
Marathon Casnewydd

Mae trefnwyr Marathon Casnewydd wedi ymddiheuro ar ôl darganfod bod llwybr y ras eleni yn rhy hir.

Roedd y ras, gafodd ei chynnal ar 28 Ebrill eleni, 276 metr yn hirach na phellter cywir marathon o 26.2 milltir - sy'n cyfateb i 0.171 milltir.

Mae cwmni Run 4 Wales yn dweud ei fod yn “siomedig bod hyn wedi digwydd" yn un o’i ddigwyddiadau ac yn ymddiheuro'n ddiamod i’r sawl gafodd eu heffeithio.”

Mae’r cwrs yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd ar galendr rhedeg Cymru, yn rhannol oherwydd pa mor wastad yw y llwybr.

O ganlyniad mae'n cael ei adnabpd fel un o'r marathonau cyflymaf y byd.

Bydd amserau rhedwyr yn cael eu newid yn awtomatig os ydyn nhw’n gwneud cais am fynediad 'Good For Age' i Farathon Llundain.

“Bydd nifer cyfatebol o eiliadau’n cael eu tynnu oddi ar amseroedd gorffen y rhai sy’n gwneud cais am fynediad ‘Good For Age’", meddai'r trefnwyr:

"Er enghraifft, byddai amser gorffen tair awr yn cael ei gywiro tua 70 eiliad, byddai amser gorffen o 3.5 awr yn cael ei gywiro 82 eiliad a byddai amser gorffen o bedair awr yn cael ei gywiro 94 eiliad. Bydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig drwy system Marathon Llundain wrth wneud cais."

Mewn datganiad sydd wedi’i bostio ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y trefnwyr: “Rydym wedi bod yn ymchwilio i adroddiadau ynghylch cywirdeb pellter y cwrs marathon yng Ngŵyl Marathon Casnewydd ar ddydd Sul 28 Ebrill.

“Mae’r mater hwn wedi’i gymryd o ddifrif ac rydym wedi bod yn cynnal deialog barhaus gyda’r Mesurydd Cwrs/Cymdeithas Mesuryddion Cyrsiau’r DU (AUKCM).

“Yn anffodus, mae AUKCM wedi dod i’r casgliad bod gwall gyda mesuriad y cwrs, gan olygu bod y marathon 276m yn rhy hir, sy’n cyfateb i 0.171 milltir.

“Gall AUKCM gadarnhau nad oedd unrhyw broblemau gyda’u mesuriadau hanner marathon na chwrs y 10K.”

Mae ITV Cymru wedi cysylltu â Chymdeithas Mesurwyr Cyrsiau'r DU am ymateb.

Llun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.