Newyddion S4C

Iwerddon yn cyrraedd rownd derfynol Eurovision

08/05/2024
Bambie Thug

Mae Iwerddon wedi cyrraedd rownd derfynol Eurovision am y tro cyntaf ers 2018.

Bambie Thug oedd yn canu'r gân ac maen nhw yn un o'r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.

Ond roedd yn rhaid i'r trefnwyr ymddiheuro ar ôl i un o berfformwyr agoriadol y sioe wisgo keffiyeh.

Math o sgarff yw keffiyeh sydd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd o blaid safbwynt Palesteina.

Dywedodd Undeb Darlledu Ewropeaidd ei bod wedi rhoi gwybod i'r perfformwyr am y rheolau ond bod Eric Saade wedi "dewis cyfaddawdu ar natur di-wleidyddol y sioe".

Fe ddywedodd Bambie Thug eu bod nhw wedi cael gorchymyn i dynnu symbolau gwleidyddol o'u gwisg cyn cystadlu nos Fawrth.

Roedd y wisg yn cynnwys ysgrifennu Celtaidd hynafol oedd yn dweud "rhyddid i Balesteina" a "chadoediad".

Mae yna wrthwynebiad wedi bod i'r ffaith bod Israel yn cael cymryd rhan yn yr Eurovision eleni yn sgil pryderon am elfennau dyngarol y rhyfel yn Gaza.

Ond mae Undeb Ewropeaidd Darlledu wedi gwrthod y galwadau.

Nos Iau bydd 16 act arall yn ceisio ennill eu lle yn y rownd derfynol.

Mae'r rownd derfynol nos Sadwrn yn Malmö, Sweden. 

Llun: EBU/Sarah Louise Bennett/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.