Ofcom yn galw am fwy o reolaeth ar gynnwys niweidiol i blant ar y we
Mae'n rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i atal eu halgorithmau rhag argymell cynnwys niweidiol i blant, medd Ofcom.
Daw ar ôl i'r rheolydd cyfathrebu gyhoeddi drafft o'i Godau Ymarfer Diogelwch Plant ddydd Mercher.
Mae'r cod ymarfer yn nodi mwy na 40 o fesurau ymarferol y bydd yn rhaid i gwmnïoedd technoleg eu rhoi ar waith.
Bydd yn rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol leihau amlygiad plant i niwed difrifol ar-lein, gan gynnwys deunydd cas a threisgar.
Byddant hefyd yn cael eu gorfodi i wirio oedran defnyddwyr a chyflwyno ffyrdd syml i blant atal cynnwys niweidiol rhag cael ei argymell iddynt.
Dywedodd Ofcom y gallai cwmnïoedd sy'n methu â chydymffurfio â’r rheolau newydd olygu bod eu llwyfannau yn cael eu gwahardd i rai dan 18 oed.
Mae'n rhaid i'r rheolydd orchymyn rheolau llymach yn dilyn cyflwyniad y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Angen canllawiau 'mwy uchelgeisiol'
Ond dywedodd tad Molly Russell, a gymerodd ei bywyd ei hun yn 14 oed yn 2017 ar ôl gweld cynnwys niweidiol ar-lein, fod angen i ganllawiau Ofcom fod yn “fwy uchelgeisiol”.
Dywedodd Ian Russell: “Mae’r rheolydd wedi cynnig rhai mesurau pwysig sydd i’w croesawu, ond mae angen i’w set gyffredinol o gynigion fod yn fwy uchelgeisiol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys niweidiol wnaeth arwain at Molly i golli ei bywyd.”
Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif weithredwr Ofcom: "Rydym eisiau i blant fwynhau bywyd ar-lein. Ond ers rhy hir, mae eu profiadau wedi cael eu difetha gan gynnwys hynod niweidiol na allant ei osgoi na'i reoli.
"Mae llawer o rieni yn rhannu teimladau o rwystredigaeth a phryder am sut i gadw eu plant yn ddiogel. Rhaid i hynny newid.”
Prif lun: Molly Russell (llun teulu/PA)