Newyddion S4C

America yn gohirio anfon bomiau i Israel

08/05/2024
Teulu yn ffoi o Rafah

Mae’r Unol Daleithiau wedi gohirio anfon llwyth o fomiau i Israel wythnos diwethaf yn sgil pryderon am ei ymosodiad ar ddinas Rafah yn ne Gaza, meddai uwch swyddog gweinyddol.

Roedd y llwyth yn cynnwys 1,800 o fomiau 2,000 pwys a 1,700 o fomiau 500 pwys, meddai’r swyddog wrth CBS News.

Nid yw Israel wedi “mynd i’r afael yn llawn” â phryderon yr Unol Daleithiau am anghenion dyngarol trigolion Rafah, meddai’r swyddog.

Daw ar ôl i Fyddin Israel ddweud wrth 100,000 o bobl yn Rafah ddydd Llun i adael rhannau dwyreiniol o'r ddinas “ar unwaith”.

Mae Rafah wedi bod yn bwynt mynediad allweddol ar gyfer cymorth a’r unig allanfa i bobl sy’n gallu ffoi ers dechrau’r rhyfel Israel-Hamas ar 7 Hydref 2023.

Yn y cyfamser, mae ymdrechion yn parhau i gyrraedd cytundeb ar gyfer cadoediad.

Yn Cairo, mae disgwyl i Israel a Hamas ailddechrau trafodaethau trwy gyfryngwyr.

“Safbwynt yr Unol Daleithiau yw na ddylai Israel lansio ymgyrch fawr yn Rafah, lle mae mwy na miliwn o bobl yn llochesu heb unrhyw le arall i fynd,” meddai swyddog gweinyddol y Tŷ Gwyn.

“Rydym wedi bod yn cynnal deialog ag Israel yn ein fformat Grŵp Ymgynghorol Strategol ar sut y byddant yn darparu ar gyfer anghenion dyngarol sifiliaid yn Rafah, a sut i weithredu’n wahanol yn erbyn Hamas yno nag y maent wedi ei wneud mewn mannau eraill yn Gaza.

"Mae'r trafodaethau hynny'n parhau ac nid ydynt wedi mynd i'r afael yn llawn â'n pryderon."

Ychwanegodd y swyddog bod yr Unol Daleithiau wedi gohirio un llwyth o arfau am eu bod yn ymwybodol o'r effaith y gallai'r bomiau eu cael mewn lleoliadau trefol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.