Cynnig cwnsela i aelodau rhai rheithgorau
Bydd sesiynau cwnsela am ddim ar gael ar gyfer y rhai sy'n gwasanaethu ar reithgor, wrth i gynllun peilot gael ei gynnal mewn 15 llys yn y Deyrnas Unedig
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnig pan fo aelodau'r rheithgor wedi dioddef straen meddyliol ac emosiynol.
Mae Llys y Goron yr Wyddgrug yn rhan o'r cynllun.
Bydd yn dechrau o'r haf hwn, er mwyn cynorthwyo'r rhai sy'n gwasanaethu ar reithgor mewn achosion poenus, fel gwrandawiad y llofrudd plant Lucy Letby.
Ar hyn o bryd, mae aelodau'r rheithgor sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn cael eu cyfeirio at feddyg teulu neu'r Samariaid.
Ond yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gall hynny achosi i rai deimlo'n ynysig.
Yn rhan o'r cynllun peilot, bydd chwe sesiwn gwnsela yn cael eu cynnig am ddim, yn ogystal â mynediad i linell ffôn gymorth bob awr o bob dydd, sy'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth.
Bydd y cynllun sy'n cael ei ariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau am 10 mis mewn llysoedd y goron a hynny yn Yr Wyddgrug, Leeds, Teesside, Lerpwl, Caerliwelydd, Rhydychen, Luton, Caerwynt, Bryste, Caerloyw, Nottingham a Birmingham, yn ogystal â llysoedd yr Old Bailey, Snaresbrook a Kingston Upon Thames yn Llundain.
Llun: Flickr