'Sausage Island': Bas data newydd 'yn esgus i ddileu enwau Cymraeg'
'Sausage Island': Bas data newydd 'yn esgus i ddileu enwau Cymraeg'
Mae bas data newydd sy'n rhoi llysenwau ar rai llefydd er mwyn helpu'r gwasanaethau brys i'w cyrraedd yn gyflym wedi ei feirniadu fel bod "yn esgus i ddileu enwau Cymraeg.".
Ymysg y 9,000 lleoliad yn y DU sydd â llysenw, mae Ynys Las ar Ynys Môn, sydd wedi cael yr enw Sausage Island.
Teletubby Hill yw llysenw ardal benodol ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, sydd yn cyfeirio at y rhaglen deledu Teletubbies.
Ond mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen wedi beirniadu'r syniad gan ddweud ei fod yn "annheg iawn."
Dywedodd:"Mae'n bwnc emosiynol, a dwi'n meddwl fod o'n annheg, yn ddadl annheg iawn iawn i'w defnyddio ac yn rhoi esgus iddyn nhw ddileu enwau Cymraeg ac i ddileu'r iaith Gymraeg o'r tirwedd yma - a mi fydd hynny am byth."
Mae'r digrifwr wedi ymgyrchu ers tro dros gadw enwau Cymraeg gwreiddiol llefydd yng Nghymru.
"Munud mae'r enwau yma'n mynd, mae nhw'n mynd o fewn cenhedlaeth, a mae nhw'n mynd am byth."
Mae'r bas data newydd, y Vernacular Names Tool wedi disodli Fintan, bas data a gafodd ei greu dros 10 mlynedd yn ôl ar gyfer gwylwyr y glannau.
Roedd y bas data gwreiddiol yn galluogi defnyddwyr i lwytho'r enw lleol neu'r llysenw i'r gronfa ddata, ochr yn ochr â'r lleoliad cywir neu ei enw daearyddol.
Cafodd ei greu er mwyn sicrhau y gallai gweithwyr gwylwyr y glannau gyrraedd argyfyngau, be bynnag fo disgrifiad y lleoliad, gyda mwy o hyder a chyflymder.
Mae staff yr ystafell reoli bellach yn gallu teipio llysenw a nodi'r lleoliad manwl cywir.
'Hawdd i'w ddefnyddio'
Nawr mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn defnyddio'r bas data am y tro cyntaf .
Dywedodd Chris Jones, sydd yn gweithio i'r gwasanaethau ambiwlans bod y system yn “ddefnyddiol iawn ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio.
“Rydym am gofnodi cymaint o enwau brodorol ag y gallwn, felly rydym yn archwilio sut y gall yr ystafell reoli wneud hynny nawr yn ogystal â dechrau cynnwys hyn yn rhan o hyfforddiant.
“Y gwir werth yn y tymor hir fydd sicrhau y bydd ein hambiwlansys yn gallu cyrraedd lleoliad digwyddiad yn effeithiol gyda lleoliad cywir yn cael ei ddarparu, beth bynnag y mae pobl yn eu galw."
Yn ôl gwylwyr y glannau, fe wnaethon nhw ddefnyddio teclyn gwreiddiol Fintan i ddod o hyd i safle ar draeth yng Ngwynedd, o dan yr enw ffug Tiki Head, lle'r oedd person wedi disgyn ac anafu ei goes.
Mewn digwyddiad arall fe ddaeth hofrennydd chwilio ac achub gwylwyr y glannau o hyd i berson coll, gan ddefnyddio’r llysenw Fun Ship, sy’n cyfeirio at fan yn Nociau Mostyn ar Afon Dyfrdwy.