Newyddion S4C

Rhybudd i ffermwyr y gallai clefyd y Tafod Glas ymledu o Ewrop

Gwartheg

Mae ffermwyr yng Nghymru yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r Tafod Glas yn dilyn rhybuddion y gallai’r clefyd ymledu o Ewrop.

Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo'n bennaf gan bigiadau gwybed ac mae'n effeithio ar anifeiliaid fferm, gan gynnwys gwartheg, geifr a defaid.

Nid yw’r feirws yn effeithio ar bobl neu ar ddiogelwch bwyd.

Mae gwybed yn fwyaf amlwg rhwng Ebrill a Thachwedd, ac mae pryderon y gallai’r gwybed gael eu hymledu gan y gwynt o’r Iseldiroedd, ble cafodd straen newydd o’r enw BTV-3 ei ddarganfod fis Medi'r llynedd.

Fis Tachwedd y llynedd, cafodd 126 o achosion o’r feirws eu cadarnhau yng Nghaint, Norfolk, Sussex a Surrey, ond nid oes unrhyw achosion erioed wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Er nad oed oes tystiolaeth bod achosion eraill yn y DU eleni, mae Llywodraeth Cymru yn annog ffermwyr i barhau i sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol, yn ogystal â chadw at fesurau bioddiogelwch llym.

Dywedodd Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod hwn lle mae anifeiliaid mewn mwy o berygl o'r Tafod Glas o wybed, byddwn yn annog pob ceidwad i weithredu nawr i ddiogelu eu buchesi a’u diadellau i gadw clefydau allan, i fod yn ymwybodol sut i adnabod y Tafod Glas - ac i roi gwybod am unrhyw amheuaeth o achosion ar unwaith.

"Dyw Cymru erioed wedi cael achos o'r Tafod Glas - ond - gydag achosion yn y gorffennol yn Lloegr ac yn Ewrop rydyn ni'n annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi ar gyfer sefyllfa ble y gallai’r Tafod Glas godi eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.