Vaughan Gething yn gwadu camarwain Ymchwiliad Covid-19
Vaughan Gething yn gwadu camarwain Ymchwiliad Covid-19
Gallai Prif Weinidog Cymru gael ei alw yn ôl i'r Ymchwiliad Covid-19, ar ôl i neges ymddangos sy'n bwrw amheuon am yr hyn a ddywedodd pan gyflwynodd dystiolaeth i'r gwrandawiad.
Mae amheuon fod Vaughan Gething wedi camarwain yr ymchwiliad fis Mawrth, pan wadodd iddo ddileu negeseuon WhatsApp yn fwriadol yn ystod y pandemig.
Ond tra'n cael ei holi yn y Senedd brynhawn Mawrth, gwadodd y Prif Weinidog iddo ddweud celwydd wrth yr ymchwiliad.
Mr Gething oedd y gweinidog iechyd yn ystod y pandemig.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad nad fe aeth ati i ddileu ei negeseuon, ond yn hytrach uned dechnoleg gwybodaeth y Senedd.
Honnodd i hynny ddigwydd tra roedd y system ddiogelwch yn cael ei hail adeiladu.
Dywedodd wrth y gwrandawiad fod colli'r wybodaeth yn "embaras llwyr."
Ond mae neges wedi dod i law gwefan Nation.Cymru ddydd Mawrth yn codi amheuon am eglurhad Mr Gething.
Neges
Mewn neges destun a gafodd ei phostio i'r grŵp sgwrsio gweinidogol ar ddydd Llun 17 Awst 2020, mae'n ymddangos fod Mr Gething wedi dweud: “Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn.
“Mae modd cael gafael arnyn nhw mewn FOI ( Cais rhyddid gwybodaeth) ac rydw i'n credu ein bod yn y lle iawn gyda'r dewis sy'n cael ei wneud."
Mae llefarydd ar ran Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cadarnhau ei fod yn ymwybodol o'r neges, a bod yr ymchwiliad bellach yn ystyried a oes angen i Mr Gething ddarparu rhagor o wybodaeth.
Dywedodd: “Mae'r ymchwiliad yn bwrw golwg ar yr holl wybodaeth sydd ar gael, ac yn ystyried a yw'n angenrheidiol i gasglu rhagor o dystiolaeth gan Mr Gething"
Dyw cyd-destun y neges gan Vaughan Gething ddim yn glir.
Wrth gael ei holi am y neges yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Mr Gething ei fod yn gwrthod yn llwyr yr awgrym nad yw wedi bod yn onest wrth Ymchwiliad Covid-19.
“Mae'r llun o neges yr ydych yn cyfeirio ati yn deillio o sgwrs rhwng gweinidogion, sy'n ymwneud â chyfarfod grŵp Llafur yn Awst 2020," meddai Mr Gething
“Doedd dim penderfyniadau yn ymwneud â'r pandemig yn cael eu gwneud, mae'n ymwneud â sylwadau rhwng cydweithwyr.
"Os ydyn nhw (yr ymchwiliad) yn awyddus i'm holi am hynny, rwyf yn fwy na pharod i ymddangos gerbron yr ymchwiliad a chael y sgwrs honno," ychwanegodd.
Wrth annerch yr ymchwiliad fis Mawrth, mynnodd Mr Gething bod y negeseuon wedi eu hanfon yn lle "sgyrsiau ar goridor" am nad oedd hynny'n bosibl yn ystod y pandemig.
Ychwanegodd nad oedd penderfyniadau oddi mewn i'r llywodraeth yn cael eu gwneud drwy'r negseuon hynny.
Pwysau sylweddol
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn galw ar i'r Prif Weinidog gael ei alw yn ôl i'r ymchwiliad i ddarparu rhagor o dystiolaeth.
Mae Mr Gething wedi dod o dan bwysau sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, gyda galwadau parhaol am ymchwiliad i'r rhodd o £200,000 a dderbyniodd gan ddyn sydd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.
Yn ddiweddar, holodd yr aelod Llafur ym Mae Caerdydd, Lee Waters a oedd hi'n ddoeth iddo dderbyn yr arian.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.