Newyddion S4C

Rhybudd coch am brysurdeb 'eithriadol' mewn tri ysbyty

07/05/2024
Ysbyty Tywysog Siarl

Mae Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi rhybudd coch am brysurdeb "eithriadol" mewn tri ysbyty.

Yn dilyn penwythnos gŵyl y banc, mae adrannau achosion brys yn ysbytai Brenhinol Morgannwg, Tywysog Siarl a Thywysoges Cymru yn "brysur eithriadol", meddai'r bwrdd iechyd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Dim ond os oes gennych argyfwng na all aros nes y gallwch weld eich meddyg teulu neu wasanaeth gofal iechyd eraill fel eich fferyllfa, deintydd, optegydd y dylech fynd i'n hadran argyfwng," meddai.

Ychwanegodd: "Gallwch ddisgwyl aros am amser hir iawn os nad yw'n argyfwng."
 
Mae'r bwrdd iechyd yn annog unrhyw un sy'n sâl neu wedi'u hanafu ac nad yw'n argyfwng difrifol sy'n peryglu bywyd i roi cynnig ar wasanaeth arall.
 
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys uned mân anafiadau, meddygon teulu, fferyllfeydd, deintyddion ac arbenigwyr eraill.
 
Er mwyn cael cyngor am ble i fynd, gall cleifion wirio eu symptomau ar wefan GIG 111 Cymru, meddai.
 
Daw'r cyhoeddiad ar ôl rhybudd tebyg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dros y penwythnos.
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.