Lluniau anweddus o blentyn 'wedi eu dileu' o ffôn prifathro ar ddiwrnod ei arestio
Mae llys wedi clywed fod lluniau anweddus o blentyn wedi eu dileu o ffôn prifathro ar yr un diwrnod y cafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â cham-drin plant.
Ar ddechrau'r drydedd wythnos yn yr achos yn erbyn Neil Foden o Hen Golwyn, fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug gan archwilydd fforensig technegol o Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Mr Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023.
Fe ddangoswyd cyfres o luniau i’r llys yn cynnwys lluniau o blentyn sy’n cael ei hadnabod fel 'Plentyn A'.
Dywedodd y swyddog fforensig Richard Hughes fod y lluniau, oedd yn cynnwys chwe llun llonydd, ac 11 o glipiau fideo, wedi eu dileu oddi ar ffôn Mr Foden ar 6 Medi 2023, yr un diwrnod ac y cafodd y prifathro ei arestio.
Roedd archwiliadau fforensig wedi galllu adfer y lluniau gafodd eu dileu o'i ffôn
Roedd y deunydd dan sylw'n disgyn i 'Gategori C' yn ôl eu difrifoldeb - gyda 'Categori A' y mwyaf difrifol.
Mae'r achos yn parhau.