Newyddion S4C

25 mlynedd o ddatganoli: Chwarter canrif ers etholiad cyntaf y Senedd

ITV Cymru 07/05/2024
Y Senedd

Roedd dydd Llun, 6 Mai, yn nodi 25 mlynedd ers i’r etholiad cyntaf gael ei gynnal ar gyfer y Senedd ym 1999. 

Daeth hyn yn dilyn refferendwm hanesyddol ym Medi 1997, pan bleidleisiodd y mwyafrif o drwch blewyn i ffurfio llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. 

Fe bleidleisiodd 50.3% o bleidleiswyr o blaid ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd, gan sicrhau y byddai rhai grymoedd yn cael eu trosglwyddo’n uniongyrchol o San Steffan i Gymru.

Ac fe ddaeth y bleidlais honno wedi i nifer cynyddol o bobl ddechrau galw am ddatganoli yn ystod yr 1980au a 1990au. 

Fel arweinydd y blaid Lafur, roedd Tony Blair wedi gwneud refferendwm ar gyfer datganoli yng Nghymru a’r Alban yn rhan o’i faniffesto – ac fe enillodd yr etholiad cyffredinol yn 1997 gyda mantais sylweddol iawn.

Mae pum prif weinidog wedi bod yn hanes Cymru ers datganoli, gan gynnwys Prif Weinidog presennol Cymru, Vaughan Gething. 

Mae pob prif weinidog ar Gymru wedi bod yn arweinwyr y blaid Lafur. 

Pŵer

Yn ystod y 25 blynedd ddiwethaf, mae rhagor o bŵer wedi cael ei drosglwyddo i’r Senedd yng Nghaerdydd. 

Yn 2011, fe bleidleisiodd 63.5% o blaid y syniad y dylai’r Senedd gael y grym i greu deddfau sylfaenol. 

Fe gafwyd pŵer cyfyngedig i wneud hynny yn 2017.

Yn 2020, fe gafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ail-enwi yn Senedd Cymru, gan dynnu sylw ehangach at ei rymoedd i greu deddfau a gosod trethi.

Yn ystod yr un flwyddyn, cafodd pobl 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd – gyda’r etholiad nesaf i gael ei gynnal yn 2026.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi cadw cyfrifoldeb dros rai meysydd, gan gynnwys y sector amddiffyn. 

Bydd y Senedd yn ehangu yn fuan, wedi pleidlais gan ASau'r wythnos ddiwethaf. Bydd nifer y gwleidyddion yn y Senedd bellach yn cynyddu o 60 i 96.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.