Sylvester Stallone i werthu sawl oriawr mewn ocsiwn
Mae'r seren Hollywood Sylvester Stallone wedi penderfynu gwerthu sawl oriawr mewn ocsiwn yn cynnwys yr un a wisgodd yn ystod y ffilm The Expendables 2.
Mae'r casgliad wedi bod ganddo dros gyfnod o 20 mlynedd.
Yn ôl seren ffilmiau Rocky sy'n 77 oed , mae'r gwerthiant yn brofiad "chwerw felys" iddo, gan ychwanegu fod yr 11 oriawr yn ei atgoffa fod " gwaith caled " yn werth yr ymdrech.
Mae disgwyl i'r oriawr ddrytaf sef y Patek Philippe Grandmaster Chime 6300 gyrraedd rhwng dwy a phedair miliwn o bunnau.
“Wrth edrych ar y casgliad, rwy'n teimlo'n ffodus iawn mod i wedi bod yn berchen arnyn nhw
“Er bod ffarwelio â nhw yn chwerw felys, rydw i'n gobeithio y byddan nhw yn cael eu gwerthfawrogi a'u hedmygu yn eu cartrefi nesaf,” meddai'r actor.
Dywedodd Geoff Hess, o gwmni ocsiwn Sotheby's: “Tra bod nifer yn cysylltu Stallone â chymeriadau fel Rocky Balboa a John Rambo, mae'r rhai sy'n ymddiddori yn y maes hwn, yn gwybod ei fod yn berchen ar sawl oriawr ac yn gasglwr brwd.”
Bydd casgliad Sylvester Stallone ar werth yn Efrog Newydd ar 5 Mehefin.