John Swinney wedi ei ethol yn arweinydd yr SNP
Mae John Swinney wedi ei ethol yn arweinydd plaid yr SNP, ac mae disgwyl iddo ddod yn Brif Weinidog yr Alban yn y dyddiau nesaf.
Daeth y cyfnod enwebu i ben am hanner dydd, ddydd Llun, a dim ond Mr Swinney oedd yn y ras i arwain yr SNP, wedi i Humza Yousaf gyhoeddi yr wythnos diwethaf y byddai'n ymddiswyddo.
Wrth ymateb brynhawn Llun, dywedodd John Swinney ei bod yn "fraint enfawr" i gael ei ethol yn arweinydd yr SNP.
"Byddaf yn ymdrechu hyd eithaf fy ngallu i wasanaethu fy mhlaid a fy ngwlad," meddai.
Tra'n areithio yn Glasgow brynhawn Llun, rhoddodd Mr Swinney deyrnged i'w ragflaenydd Humza Yousaf, a'i ganmol am ei “arweiniad moesol wrth ymdrin â'r rhyfel yn Gaza.”
Ond dywedodd bod ei benodiad e fel arweinydd newydd yr SNP yn "ddechrau pennod newydd" ar gyfer y blaid.
Ddydd Sul, roedd adroddiadau bod ymgeisydd arall yn ystyried herio Mr Swinney. Dywedodd yr ymgyrchydd Graeme McCormick ei fod wedi sicrhau 100 o enwebiadau, a bod hynny'n ei alluogi i ymuno â'r ras am yr arweinyddiaeth.
Ond yn ddiweddarach nos Sul, cadarnhaodd iddo gamu o'r neilltu wedi iddo gynnal trafodaethau "hir a ffrwythlon" gyda Mr Swinney.
Roedd Mr Swinney, sy'n gyn ddirprwy brif weinidog yn Alban wedi rhybuddio y byddai unrhyw her i'w ymgais i arwain y blaid yn niweidio gobeithion yr SNP o ail adeiladu wedi cyfnod "anodd" yn ddiweddar.
Prif Weinidog
Gyda Mr Swinney wedi ei ethol yn arweinydd yr SNP yn ddiwrthwynebiad, y cam nesaf fydd ei ethol yn Brif Weinidog yr Alban, y trydydd mewn ychydig mwy na blwyddyn.
A gallai hynny ddigwydd ganol yr wythnos hon.
Bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn cyfarfod yn y dyddiau nesaf, a bydd cyfle wedi hynny i aelodau Senedd yr Alban ethol Prif Weinidog.
Yna byddai angen i Mr Swinney dyngu tri llw yng Nghaeredin, cyn ymgymryd â swydd y Prif Weinidog yn ffurfiol.
Cafodd y ras am yr arweinyddiaeth ei hagor ar ôl i'r Prif Weinidog Humza Yousaf gadarnhau ei fwriad i ymddiswyddo yr wythnos diwethaf, wedi iddo roi'r gorau i gydweithio â'r Blaid Werdd yn Yr Alban.