Rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru
06/05/2024
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer stormydd a chawodydd trymion i rannau o Gymru ddydd Llun.
Bydd y rhybudd mewn grym yn rhai o siroedd gogledd Cymru a'r canolbarth o 13:00 hyd at 21:00.
Mae disgwyl "stormydd a tharanau a glaw trwm", meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae llifogydd yn bosibl mewn rhai ardaloedd, o ganlyniad i gyfnodau gwlyb diweddar pan syrthiodd hyd at 40mm o law mewn dwy awr.
Gallai hynny arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd.
Mae'n bosibl y gall rhai golli cyflenwadau pŵer a gwasanaethau eraill mewn cartrefi a busnesau.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Y Fflint
- Gwynedd
- Powys
- Wrecsam