Newyddion S4C

Byddin Israel yn dweud wrth 100,000 o bobl i adael Rafah ‘ar unwaith’

06/05/2024
Rafah, Gaza

Mae Byddin Israel wedi dweud wrth 100,000 o bobl yn Rafah i adael y ddinas yn ne Gaza “ar unwaith”.

“Er eich diogelwch chi, mae Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn eich hannog i symud ar unwaith i’r ardal ddyngarol estynedig,” meddai llefarydd ar ran yr IDF, Avichay Adraee, mewn datganiad.

Yn ôl Byddin Israel, mae'r alwad i adael wedi cael ei gwneud trwy “gyhoeddiadau, negeseuon testun, galwadau ffôn a darllediadau cyfryngau yn Arabeg”. 

Mae pobl yn cael eu cyfeirio at ddinasoedd sydd â phebyll yn Khan Younis ac Al Mawasi gerllaw, meddai.

Daw'r alwad ar ôl i Israel ymosod ar Rafah nos Sul, gan ladd 22 o bobl - wyth ohonynt yn blant.

Mae gweinidog amddiffyn Israel, Yoav Gallant, wedi dweud bod angen gweithredu milwrol yn Rafah oherwydd bod Hamas wedi gwrthod cadoediad yn Gaza.

Dydd Sul, fe wnaeth Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wrthod galwadau Hamas am ddiwedd pendant i’r rhyfel unwaith eto.

Mae Associated Press yn nodi bod tua 1.4 miliwn o Balesteiniaid - mwy na hanner poblogaeth Gaza - yn Rafah a'r cyffiniau. 

Fe wnaeth y mwyafrif ohonyn nhw ffoi o'u cartrefi mewn ardaloedd eraill yn Gaza ar ddechrau'r rhyfel ar 7 Hydref y llynedd.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.