Jak Jones ar ei hôl hi cyn ail ddiwrnod rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
06/05/2024
Wedi dechrau sigledig ar ddiwrnod cyntaf rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ddydd Sul, mae angen i'r Cymro Jak Jones ennill tir yn erbyn Kyren Wilson ar ail ddiwrnod y chwarae ddydd Llun.
Pan ddaeth y chwarae i ben nos Sul, roedd Kyren Wilson o Loegr ar y blaen o 11-6.
Wedi sesiwn gynta'r dydd, roedd Wilson ar y blaen o 7-1, ond llwyddodd Jones i ennill pump o'r naw ffrâm yn ystod sesiwn yr hwyr.
Bydd y rownd derfynol yn parhau am 13:00 ddydd Llun.
Y cyntaf i gyrraedd 18 ffrâm fydd yn cael ei goroni'n bencampwr y byd.
Llun: WST