Newyddion S4C

Llywodraeth Israel yn atal Al Jazeera rhag darlledu

05/05/2024
al jazeera

Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi cyhoeddi y bydd yn atal Al Jazeera rhag darlledu yn Israel.

Dywedodd Mr Netanyahu fod penderfyniad y cabinet wedi bod yn unfrydol yn erbyn y rhwydwaith.

Mae Al Jazeera wedi condemio'r penderfyniad fel un "troseddol".

Fis diwethaf, fe basiodd senedd Israel ddeddf a oedd yn galluogi'r llywodraeth i atal darlledwyr tramor dros dro a oedd yn cael eu hystyried yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol yn ystod y rhyfel yn erbyn Hamas. 

Dywedodd y Gweinidog Cyfathrebu Shlomo Karhi y byddai'r gwaharddiad "yn dod i rym ar unwaith".

Gwadu

Am flynyddoedd, mae swyddogion Israel wedi cyhuddo'r rhwydwaith o ddangos rhagfarn gwrth-Israelaidd.

Fe gynyddodd y feirniadaeth ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref a laddodd 1,200 o bobl.

Mae newyddiadurwyr tramor bellach wedi’u gwahardd rhag mynd i mewn i Gaza a staff Al Jazeera oedd rhai o'r unig ohebwyr yno.

Mae o leiaf 34,683 o Balesteiniaid wedi’u lladd a 78,018 wedi’u hanafu yn Gaza ers 7 Hydref, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.

Dywed awdurdodau fod gan Al Jazeera gysylltiadau agos â Hamas, ond mae'r rhwydwaith yn gwadu hynny'n gryf.

Llun: Al Jazeera Media Network.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.