Torri record byd am y baguette hiraf erioed
Mae 12 pobydd yng ngogledd Ffrainc wedi torri record byd am y baguette hiraf erioed.
Fe gafodd yr ymgais ei wneud yn Sioe Baguette Suresnes yn rhanbarth Île-de-France yng ngogledd y wlad ddydd Sul.
Mae'r pobyddion i gyd yn lleol ac roeddent yn ceisio "gwneud a choginio baguette sy'n mesur mwy na 132.62 metr o hyd, a hynny yn gyhoeddus".
Fe gafodd y record blaenorol ei thorri yn yr Eidal ar 16 Mehefin 2019.
Llwyddodd y pobyddion i dorri'r record honno, gan lwyddo i gael baguette oedd yn mesur 140.53 metr o hyd.
Inline Tweet: https://twitter.com/villedesuresnes/status/1787114186532630975
Dywedodd y pobyddion eu bod yn benderfynol o "ddod â'r record adref" i gartref y baguette.
Fe gymerodd y baguette o gwmpas wyth awr i bobi, ac er mwyn torri'r record yn llwyddiannus, roedd angen iddi fod o leiaf 5 cm o drwch.
Cyn torri'r record, dywedodd un o'r pobyddion sy'n rhan o'r ymgais, Sylvain Lecarpentier: "Dwi wir yn gobeithio y byddwn ni'n cael y record yn Ffrainc ac y bydd popeth yn mynd yn dda, ac y bydd nifer o bobl yn dod i'n cefnogi ni."
Unwaith y bydd y baguette yn cael ei gwneud, fe fydd y record yna yn cael ei chyflwyno i'r grwp guinness World Record, a fydd yna yn cadarnhau os ydi'r record wedi cael ei thorri.