‘Dim synnwyr’ cael etholiadau comisiynwyr heddlu yng Nghymru
Does “dim synnwyr” cael etholiadau comisiynwyr heddlu yng Nghymru yn ôl un arbenigwr gwleidyddol.
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod nifer isel y pleidleisiau ddydd Iau wedi dangos nad oedd y canlyniadau yn “ddilys”.
Pleidleisiodd 19.2% o etholwyr yn ardal heddlu Dyfed-Powys, 17.19% yng Ngogledd Cymru, 16.58% yn Ne Cymru a 15.63% yng Ngwent.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement fe awgrymodd Richard Wyn Jones y dylid datganoli grymoedd yr heddlu i Gymru fel oedd wedi digwydd ym Manceinion.
“Mae’n tanlinellu’r ffaith nad yw’r system hon yn y bôn yn ddilys yn ddemocrataidd,” meddai.
“Dwi’n meddwl mai dyna'r prif beth o’r etholiadau comisiynwyr yr heddlu, o ran ceisio darllen unrhyw beth arall i mewn iddyn nhw.
“Mae’n dweud rhywbeth wrthym ni am gyflwr y pleidleisiau post, pleidleisiau craidd y pleidiau yn y gwahanol rannau o Gymru.
“A hynny oherwydd etholiad pleidleisiau post oedd hyn i raddau helaeth. Ychydig iawn o bobl a aeth i flychau pleidleisio mewn gwirionedd.
“Felly mae’n grŵp o bobol wirioneddol anghynrychioliadol yn pleidleisio mewn gwirionedd.
“Felly dw i’n meddwl y gallwn ddweud rhywbeth am gyflwr y pleidleisiau post, ond dyna ni.”
Ychwanegodd: “Yng nghyd-destun Cymru, yn arbennig, nid yw cael Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gwneud unrhyw synnwyr.
“Mae’r pwerau sydd wedi'u datganoli i'r comisiynwyr heddlu yng Nghymru wedi'u datganoli i Andy Burnham ym Manceinion.
“Am eu rhesymau eu hunain, nid yw'r Llafurwyr na'r Ceidwadwyr am wneud hynny yng Nghymru. Ond nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i gael Comisiynwyr ar wahân yng Nghymru.”
'Cloddio'
Daeth ei sylwadau wedi i Geidwadwyr Cymru nodi eu bod nhw wedi bod ar y blaen yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu mewn rhai ardaloedd yr oedden nhw am eu hamddiffyn yn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd Craig Williams, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn eu bod nhw ar y blaen ym Mhowys, Conwy, Sir Ddinbych, Mynwy, a Bro Morgannwg.
“Yng Nghymru, os ydych chi'n cloddio i mewn i'r canlyniadau oherwydd eu bod wedi'u gwneud ar lefel awdurdodau lleol, roedden ni’n ennill yn y llefydd pwysig o ran yr etholiad cyffredinol,” meddai.
“Ond ydw i'n dweud ein bod ni wrth ein boddau am y canlyniadau hynny? Na, wrth gwrs ddim.
“Ond rwy'n dweud wrthych chi, pan fyddwch chi'n cloddio i mewn i'r data, mae’n bendant fod gan y ddwy blaid wleidyddol waith i’w wneud.”
Canlyniadau
Gwelodd etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru ethol y comisiynwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru.
Cafodd Jane Mudd o’r Blaid Lafur ei hethol i’r rôl yn rhanbarth Heddlu Gwent, a Emma Wools o'r blaid Lafur a cydweithredol yn rhanbarth Heddlu De Cymru.
Emma Wools yw comisiynydd heddlu du cyntaf y Deyrnas Unedig yn ogystal.
Dywedodd ei fod yn "fraint enfawr ac yn gyfrifoldeb enfawr".
“Mae’n gyfle pwerus i greu newid, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a bod yn eiriol dros gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol,” meddai.
Mae Jane Mudd yn cymryd lle Jeff Cuthbert a Emma Wools yn cymryd lle cyn-arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Alun Michael.
Fe etholwyd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru yn Gomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys am y trydydd tro, ac mae Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur wedi dal ei afael ar ei swydd yng Ngogledd Cymru.