Rhieni yn ‘poeri ar brifathrawon a’u bygwth’
Mae cynhadledd prifathrawon sy’n cael ei chynnal yng Nghymru wedi clywed bod rhieni yn poeri ar athrawon a’u bygwth.
Clywodd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) fod y gamdriniaeth wedi cyrraedd “lefelau annifyr” a bod ysgolion wedi gorfod ffonio’r heddlu.
Pasiodd y gynhadledd yng Nghasnewydd gynnig yn galw ar yr undeb i lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r ymddygiad bygythiol a sarhaus y mae prifathrawon yn ei wynebu.
Dywedodd Debra de Muschamp, yr athrawes a gynigiodd y cynnig, fod ymddygiad rhai rheini at brifathrawon wedi troi’n “sinistr”.
“Mae straeon am athrawon sy’n dioddef pob math o gamdriniaeth a bygythiadau gan rai rhieni a gofalwyr wedi cyrraedd lefelau annifyr,” meddai.
Dywedodd Ms de Muschamp fod rhai athrawon wedi ystyried gadael y proffesiwn yn dilyn camdriniaeth “annerbyniol” gan rieni.
“Mae'n aflonyddu, mae'n fwlio, mae'n gam-drin. Rhaid i ni fynd i’r afael a hyn rŵan cyn iddo ddod yn norm," meddai.
‘Poeri’
Roedd y cynnig, a basiwyd yn unfrydol yn y gynhadledd, yn nodi bod rhai aelodau NAHT wedi gweld cynnydd mewn “ymddygiad geiriol a bygythiol” yn eu herbyn nhw a staff ysgolion.
Yn ystod y ddadl, dywedodd Toni Dolan, o gangen Barnsley yn Lloegr, fod aflonyddu a cham-drin staff ysgol gan rieni “yn digwydd bron yn ddyddiol”.
Meddai: “Pe baech wedi dweud wrthyf naw mlynedd yn ôl y byddwn yn cael fy mygwth, fy mychanu ac, o’r mis diwethaf, wedi cael rhieni a gofalwyr yn poeri arna i, fyddwn i byth wedi credu’r peth.”
Mae NAHT yn cynrychioli prifathrawon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.