Jak Jones yn cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
Mae'r Cymro Jak Jones wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.
Enillodd Jones yn erbyn y cyn-bencampwr Stuart Bingham o 17-12 yn y Crucible yn Sheffield nos Sadwrn.
Mae Jones yn rhif 44 yn rhestr detholion y byd.
Fe fydd yn wynebu Kyren Wilson yn y rownd derfynol, a fydd yn dechrau am 13:00 ddydd Sul ac yn gorffen nos Lun.
Os yn fuddugol, Jones fyddai'r chwaraewr cyntaf i ddod yn bencampwr byd a hynny ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol ers Shaun Murphy yn 2005.
Terry Griffiths oedd y Cymro diwethaf i wneud hynny ym 1979.
Fe fyddai Jak Jones yn ennill gwobr ariannol o £500,000 os yn ennill yn y rownd derfynol.
"Mae'n wallgof, roedd yn gwbl annisgwyl dod i mewn i'r twrnamaint," meddai.
"Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi chwarae yn arbennig o dda. Rydw i wedi gwylio rownd derfynol y byd bob blwyddyn ar y teledu gartref ac nid yw'n teimlo'n real eto, dyw e ddim wedi suddo i mewn."
Llun: WST