Newyddion S4C

Bachgen 16 oed wedi’i saethu’n farw wedi iddo drywanu dyn â chyllell

05/05/2024
Safle y saethu

Mae bachgen 16 oed wedi’i saethu’n farw gan heddlu ym mhrifddinas talaith Gorllewin Awstralia, Perth, ar ôl iddo drywanu dyn yn ei gefn â chyllell gegin.

Cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty ond bu farw. Mae’r dioddefwr mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd arwyddion bod y bachgen wedi cael ei radicaleiddio ar-lein, meddai’r awdurdodau yn Awstralia.

“Ar hyn o bryd mae’n ymddangos ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun,” meddai Prif Weinidog llywodraeth Gorllewin Awstralia, Roger Cook.

Dywedodd heddlu yng Ngorllewin Awstralia eu bod wedi derbyn galwad yn hwyr ddydd Sadwrn gan fachgen yn ei arddegau oedd wedi eu rhybuddio ei fod yn bwriadu cyflawni "gweithredoedd treisgar”.

Dywedodd comisiynydd yr heddlu, Col Branch, wrth gynhadledd i’r wasg fod galwad frys arall wedi dod i law o fewn munudau yn rhybuddio swyddogion fod “dyn gyda chyllell yn rhedeg o amgylch y maes parcio” yn Willetton, un o faestrefi deheuol Perth.

Daeth tri swyddog o hyd i ddyn 16 oed wedi’i arfogi â chyllell gegin hir.

Fe daniodd y ddau swyddog cyntaf eu Tasers ond pan barhaodd y llanc i nesáu tuag atynt, taniodd y trydydd swyddog un ergyd a laddodd y bachgen 16 oed, meddai’r comisiynydd.

Disgrifiwyd y bachgen yn ei arddegau fel person â "phroblemau cymhleth" a oedd wedi bod yn rhan o raglen gwrth-radicaleiddio ers sawl blwyddyn i fynd i'r afael â’i ideolegau eithafol.

Dywedodd y Comisiynydd Blanch nad oedden nhw’n ei drin fel ymosodiad terfysgol ar hyn o bryd.

Diolchodd hefyd i aelodau'r gymuned Fwslimaidd a oedd yn pryderu am ei ymddygiad cyn y digwyddiad ac a oedd wedi rhybuddio'r heddlu.

Llun: Safle y saethu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.