Teyrnged teulu i fachgen 14 oed fu farw wedi ymosodiad â chleddyf yn Llundain
Mae teulu bachgen 14 oed fu farw wedi ymosodiad â chleddyf yn Llundain ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Daniel Anjorin wedi i ddyn ymosod arno â chleddyf tra'r oedd yn cerdded i'r ysgol fore yn nwyrain Llundain fore Mawrth.
Mae dyn 36 oed, Marcus Aurelio Arduini Monzo, 36, wedi ei gyhuddo o lofruddio'r bachgen.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio, dau achos o achos niwed corfforol, byrgleriaeth a chael llafn yn ei feddiant.
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan Heddlu'r Met, dywedodd ei deulu: "Mae ein calonnau ni fel teulu wedi eu torri yn sgil colled ein mab annwyl Daniel.
"Mae'n anodd i ni brosesu ar hyn o bryd beth ddigwyddodd iddo a'r ffaith na fydd fyth yn dychwelyd adref. Roedd Daniel wedi gadael y tŷ i fynd i'r ysgol.
"Mae ein plant wedi colli eu brawd annwyl a chariadus, ac rydym ni wedi colli y mab mwyaf arbennig."
Roedd Daniel yn gefnogwr o glwb Arsenal, ac fe roddodd y clwb deyrnged iddo cyn eu gêm yn erbyn Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.
Yn ystod y gêm, roedd munud o gymeradwyaeth yn Stadiwm yr Emirates yn y 14eg munud.